
P'un a ydych chi newydd adael yr ysgol ac yn dymuno astudio'n llawn amser gyda ni, neu am newid gyrfaoedd gyda chymhwyster rhan amser neu lefel prifysgol, gallwn eich helpu i gymhwyso a dysgu sgiliau newydd. Gyda phum campws gwahanol a lleol a leolir yng Nghwmbrân, Brynbuga, Glyn Ebwy, Crosskeys a Chasnewydd, mae gwneud y dewis cywir yn hawdd.
Mae gwneud cais yn syml. Dewiswch y cwrs sy’n addas i chi a gwnewch gais ar-lein ar dudalen y cwrs. Os bydd angen cymorth gydag unrhyw ran o'r cais arnoch, siaradwch â'n tîm recriwtio myfyrwyr.