En

Rhyddid Gwybodaeth

Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOIA 2000) a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR 2004) yn rhoi’r hawl i’r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth sydd yn cael ei dal gan gyrff cyhoeddus megis Coleg Gwent. Mae’r hawl hon yn berthnasol i holl gofnodion digidol a chofnodion copi caled sydd yn cael eu dal gan Coleg Gwent, yn cynnwys y deunydd a ddelir yn yr archif.

Mae gennych hawl i wneud cais am unrhyw wybodaeth sydd yn cael ei dal gan Coleg Gwent, ac rydym wedi ymrwymo at egwyddorion o dryloywder a bod yn agored, fodd bynnag bydd mathau penodol o wybodaeth yn cael eu dal yn ôl pan fo’n briodol, o dan yr eithriadau a nodir yn y ddeddfwriaeth. Gellir dod o hyd i fwy o fanylion yn ein:

Polisi Deddf Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Costau am wybodaeth

Mae gennym ganiatâd i godi tâl rhesymol am wybodaeth sydd ddim ar gael yn rhwydd. Gellir canfod mwy o wybodaeth ar sut y cyfrifir y costau yn y polisi.

Cynllun Cyhoeddi

O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus feddu ar Gynllun Cyhoeddi yn manylu’r mathau o wybodaeth a ddelir a sut y gellir cael mynediad ati.

Mae Cynllun Cyhoeddi Coleg Gwent yn seiliedig ar y cynllun model sydd wedi ei ddarparu ar gyfer colegau Addysg Uwch gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’r wybodaeth sydd angen bod ar gael gan y Coleg yn cael ei grwpio yn ôl y categoriau canlynol:

  • Pwy ydym ni a beth ydym yn ei wneud
  • Faint ydym yn ei wario a sut ydym yn ei wario
  • Beth yw ein blaenoriaethau a sut beth yw ein cynnydd
  • Sut ydym yn gwneud penderfyniadau
  • Polisïau a gweithdrefnau
  • Rhestrau a chofrestrau
  • Y gwasanaeth a gynigiwn

Mae rhestr o’r holl fathau o wybodaeth sydd yn cael ei dal gan Coleg Gwent wedi ei chynnwys yn y Cynllun Cyhoeddi. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, ond mae’n dangos y mathau o wybodaeth sydd ar gael. Lle bynnag fo’n bosib, mae’r Coleg wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael drwy’r wefan hon, ond pan nad yw hynny’n bosib, gellir gwneud cais am y wybodaeth gan ddefnyddio’r ffurflen gyswllt, neu drwy gysylltu’n uniongyrchol gyda’r Swyddog Llywodraethu.

Marie Carter

Swyddog Llywodraethu
Pencadlys Coleg Gwent
Y Rhadyr
Brynbuga
Sir Fynwy
NP15 1XJ

foi@coleggwent.ac.uk

01495 333519