Barod am newid?
Os ydych chi am ennill y cymwysterau i allu newid gyrfaoedd, gwneud cynnydd yn eich rôl bresennol, ennill gradd prifysgol, neu dim ond dysgu sgìl newydd, yna bydd ein hystod o gyrsiau am ddim, hyblyg a fforddiadwy at eich dant.
Dechrau ym mis Ionawr
Archwiliwch ystod enfawr o gyrsiau rhan amser a fforddiadwy sy’n dechrau yn 2025.
Gweler CyrsiauMynediad i Addysg Uwch
Dewiswch o blith ystod o lwybrau am ddim er mwyn cael lle ar eich cwrs gradd dewisol ac ennill eich swydd ddelfrydol.
Gweler CyrsiauPob cwrs
Darganfyddwch gannoedd o gyrsiau llawn amser, rhan amser a lefel prifysgol sy’n dechrau yn 2025.
Gweler CyrsiauNi ddylai astudio fod yn anhygyrch
Fel dysgwyr oedolion, rydym yn deall bod heriau a all wneud i ddychwelyd i astudio deimlo'n llethol.
Boed yn ddiffyg amser, cyfyngiadau ariannol, anawsterau gofal plant neu nerfusrwydd – rydym yn deall ac rydym yma i'ch cefnogi chi.
Hyblyg
Cyflwynir ein cyrsiau drwy gydol y dydd ac maent yn dechrau ar adegau amrywiol yn ystod y flwyddyn - gan ei gwneud hi'n bosib i chi astudio pan fydd yn gyfleus i chi. A chyda phum campws lleol, gallwch astudio'n agos at adref ar amser sy'n gyfleus i chi heb roi'r gorau i'r hyn sy'n bwysig i chi.
DARGANFOD MWYCymorth ariannol
Mae llawer o’n cyrsiau am ddim, sy’n golygu y gallwch ddysgu, cymhwyso a symud ymlaen yn eich gyrfa am ddim. Os oes costau cysylltiedig â’ch dewis o gwrs, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol.
DARGANFOD MWYCymorth
Gall dychwelyd i'r coleg fel oedolyn fod yn frawychus, ond mae hefyd yn rhoi boddhad mawr. Gall ein tîm cymorth arbenigol eich helpu i ddilyn eich angerdd a gyda llwybrau dilyniant clir, byddwn yn eich helpu i gynllunio sut i gyflawni eich nodau.
DARGANFOD MWY