Gyda’r angen cynyddol am wybodaeth a sgiliau STEM yn yr economi leol, uchelgais Coleg Gwent yw addysgu gweithlu’r dyfodol mewn adeilad pwrpasol lle bydd myfyrwyr yn cael eu hamgylchynu gan arloesedd a thechnoleg sy’n adlewyrchiad o’r diwydiant. Bydd ein Canolfan Beirianneg Gwerth Uchel (HiVE) newydd yng Nglynebwy yn agor ar hen safle ffatri Monwel yn 2024.
Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Llywodraeth Cymru, y Cymoedd Technoleg, ac addysg, rydym ar fwriad buddsoddi £8.5 miliwn mewn Canolfan Beirianneg Uwch yn agos at gampws Parth Dysgu Blaenau Gwent, a fydd yn cynnig addysg peirianneg o ansawdd uchel er mwyn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc ar gyfer y dyfodol.
Mae’r prosiect yn y cyfnod cynllunio ar hyn o bryd, a bwriedir dechrau adeiladu’r ganolfan ragoriaeth yn ystod haf 2023. Rydym yn bwriadu creu cyfleuster addysg o’r radd flaenaf, sy’n garbon niwtral ac yn hollol ddigidol. Byddwn yn hyfforddi gweithlu’r dyfodol mewn disgyblaethau peirianneg uwch megis roboteg, deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch, gweithgynhyrchu awtonomaidd, efelychiad a realiti estynedig. Bydd y cwricwlwm yn cael ei gynllunio a’i arwain gan arbenigwyr yn y diwydiant. Cyflwynir cyrsiau newydd ar lefelau 3, 4, 5 a 6, gan ddod â rhagoriaeth ac arbenigedd i’r ardal a rhoi hwb i’r economi leol.
Bydd Canolfan HiVE, drwy ddod â diwydiant ac addysg at ei gilydd i faes peirianneg gwerth uchel, yn cynnig cyfleoedd ymchwil a datblygu i bartneriaid yn y diwydiant. Bydd yn ganolfan ar gyfer rhaglenni allgymorth ysgolion a chyflogwyr, a fydd o fudd i’r gymuned ehangach.