27 Ionawr 2020
Am noson yn llawn cyffro! Am ddechrau gwych i 2020!
Ar 14 Ionawr 2019, enillodd Academi Rygbi Iau’r Dreigiau Coleg Gwent eu lle fel pencampwyr Cymru unwaith eto, gan ennill tlws Cynghrair Rygbi Ysgolion a Cholegau Cymru oddi ar Goleg y Cymoedd ar Heol Sardis, Pont-y-pŵl, 14-8.
Ni wnaeth y tywydd ofnadwy effeithio ar ansawdd y gêm o gwbl, ac roedd ymroddiad y ddau dîm yn amlwg o’r chwiban gyntaf. Chwaraeodd Coleg y Cymoedd gêm ardderchog ond cawsant eu trechu gan agwedd gadarnhaol arferol a gallu tîm Coleg Gwent. Daw buddugoliaeth i ran Coleg Gwent wyth mlynedd ar ôl eu teitl blaenorol, a gafodd ei hawlio gan dîm yn cynnwys chwaraeon presennol y Dreigiau , megis Elliot Dee, Ollie Griffiths, James Benjamin a Jack Dixon.
Gwahoddwyd seren Cwpan y Byd, Elliot Dee, i roi sgwrs ysbrydoledig cyn y gêm i ddosbarth 2020. Bu iddo annog y bechgyn i “greu atgofion” ac i “fanteisio ar y cyfle”. A dyna’n union a wnaeth y tîm!
Dywedodd Elliot ar y pryd:
“Rydw i’n gobeithio am y gorau i’r bechgyn a byddai’n arbennig eu gweld nhw’n ennill eto. Gwych yw eu gweld nhw yn ôl yn y rownd derfynol. Cafodd rygbi Gwent hi’n anodd y llynedd gyda rhai timoedd yn mynd i lawr o Uwch Gynghrair Cymru i’r Bencampwriaeth, felly da yw gweld bechgyn ifanc yn dod ymlaen eto. Byddant yn bwydo i’r clybiau hynny a, gyda gobaith, i’r Dreigiau hefyd.”
Yn ogystal â’n llwyddiannau ar y cae, mae Coleg Gwent hefyd yn gwneud gwahaniaeth oddi arno gyda’n hymrwymiad i Rygbi a’r gymuned ehangach, diolch i’r berthynas wych sydd gennym â’r Dreigiau. Mae Campws Crosskeys yn gartref i’r Academi Dreigiau Iau lle mae chwaraewyr yn ennill cymwysterau cyfochr â’u hyfforddiant rygbi. Maent yn elwa o 16 awr o hyfforddiant gyda hyfforddwyr y Dreigiau wrth astudio ar gyfer eu cyrsiau Safon Uwch neu gyrsiau galwedigaethol. Yn ogystal â’n gwaith academaidd, rydym yn falch o gefnogi pecyn masgot y Dreigiau, sy’n rhoi cyfle i rai cefnogwyr ifanc rygbi gael rhedeg ar y cae gyda’r chwaraewyr yn ystod gemau, gan eu caniatáu i gael profiadau unwaith mewn bywyd.
Dywedodd Mike Sage, Rheolwr Cymunedol y Dreigiau yn ddiweddar:
“Diolchwn i’n partner cymunedol Coleg Gwent am y gefnogaeth wych maent wedi’i dangos a’r rôl maent wedi’i chwarae yn gwneud atgofion arbennig i gefnogwyr ifanc rygbi ar draws Gwent.”
Llongyfarchiadau i holl chwaraewyr a hyfforddwyr tîm Rygbi Coleg Gwent. Am ganlyniad ardderchog – mae eich ymroddiad, ymrwymiad a’ch gwaith caled wedi talu ar ei ganfed. Rydym ni i gyd yn hynod falch ohonoch!
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ein cyrsiau chwaraeon, ewch i:www.coleggwent.ac.uk/learning/full-time/sport-travel-public-services