17 Hydref 2018
Gall fyfyrwyr Coleg Gwent bellach gymryd mantais o’r ganolfan ddysgu newydd gwerth £2.5 miliwn ar gampws Brynbuga, fel rhan o’u cwrs.
Dadorchuddiodd Tim Smit, creawdwr Prosiect Eden a sylfaenydd Gerddi Coll Heligan, y ganolfan ddysgu newydd i gynulleidfa a oedd yn cynnwys Maer Brynbuga, cynghorwyr o Dorfaen, Sir Fynwy ac eraill. Ynghylch y ganolfan Cwblhawyd y ganolfan ddysgu gwerth £2.5 miliwn, newydd, ym mis Mehefin eleni, 10 mis yn unig ar ôl dechrau’r gwaith adeiladu. Bydd dros 270 o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau tir, chwaraeon a gofal anifeiliaid, yn defnyddio’r cyfleusterau yn y ganolfan newydd fel rhan o’u hastudiaethau. Mae hyn ar ben cyfleusterau arbenigol eraill, sy’n cynnwys fferm weithiol, canolfan marchogol pwrpasol, ystod lawn o gyfleusterau gofal anifeiliaid sy’n cynnwys canolfan ailgartrefu cathod Blue Cross.
Dywedodd Pennaeth Coleg Gwent, Guy Lacey:”Mae’r Coleg yn falch iawn ei fod wedi hunan-ariannu y ganolfan fel rhan o’n buddsoddiad parhaus yn ein myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol. Mae ein canolfan ddysgu newydd yn fwy na’r un blaenorol ac yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf gan gynnwys meddalwedd awtomatig i fenthyg a dychwelyd llyfrau, dyfeisiau symudol yn y dosbarth a Wi-Fi o ansawdd uchel drwy’r adeilad cyfan. “Rydym yn treialu ystod o offer arloesol, digidol gyda’n myfyrwyr, a byddwn yn ceisio ymgorffori’r rhain ar gampws newydd Torfaen pan fydd yn agor yng Nghwmbrân yn 2020.”