16 Awst 2018
Mae gan fyfyrwyr a staff Coleg Gwent bob rheswm i ddathlu heddiw, gyda blwyddyn arall o ganlyniadau Safon Uwch rhagorol. Roedd cyfradd basio’r coleg yn 98.1%, sy’n uwch na chymharydd cenedlaethol Cymru a’r DU am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Ar draws Coleg Gwent, bu 412 o fyfyrwyr yn sefyll dros 1,000 o arholiadau Safon Uwch rhyngddynt a chyflawnodd 75% o’r rhain raddau A *-C. Mae’r coleg hefyd yn dathlu cyfradd basio o 100% mewn 32 o bynciau Safon Uwch, gan gynnwys Ffiseg, Seicoleg a Chyfrifiadureg.
Agorodd y Coleg ei ddrysau i’r myfyrwyr ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent (BGLZ) a champws Crosskeys am 8am.
Felly, sut wnaeth y myfyrwyr? Darllenwch straeon ychydig o’n myfyrwyr:
Campws Trodd Mollie James, 18 oed, o’r Coed Duon rhywbeth negyddol yn bositif yn dilyn colli ei hannwyl Fam-gu ym mis Chwefror, Mollie oedd ei henw hithau hefyd. Llwyddodd Mollie er gwaethaf y ffaith ei bod yn brwydro meigrynau, yn ogystal â phrofedigaeth, gan ennill gradd A yn y Gyfraith, A mewn Seicoleg, A mewn Astudiaethau Crefyddol a gradd A ym Magloriaeth Cymru. “Byddai Mam-gu wedi bod mor falch ac iddi hi y gwnes i’r cyfan. Doeddwn i ddim yn disgwyl cyflawni unrhyw beth fel hyn ac rwyf wrth fy modd gyda’r canlyniadau. Ni allaf roi’r gorau i wenu.” Gall Mollie nawr fynd ymlaen i astudio cwrs Bydwreigiaeth yn Wolverhampton, gan helpu i ddod â bywydau newydd i’r byd. Dychwelodd Tomos Goodwin o Flaenafon i’r coleg i wireddu ei freuddwyd o fod yn ffisiotherapydd, ac roedd yn hynod o hapus i gael ei ganlyniadau o dair gradd B heddiw. Pan ofynnwyd iddo am ei gyflawniad, dywedodd Tomos, “Rwyf wedi eisiau bod eisiau dilyn gyrfa fel ffisiotherapydd ers i mi fod yn blentyn, ac oherwydd na wnes i ennill y graddau yr oeddwn eu hangen pan oeddwn i’n iau, penderfynais ddychwelyd i astudio fel myfyriwr hŷn. Roedd y gwaith caled a’r penderfyniad werth yr ymdrech. Hoffwn ddiolch i fy ffrindiau, fy nheulu, fy mam, fy nghydweithwyr a Choleg Gwent – mae’r athrawon yno o safon byd. ” <strong>Daisy Jones</strong> o gampws Crosskeys yw’r cyntaf yn hanes Coleg Gwent i astudio tri chwrs Safon Uwch yn y Celfyddydau Creadigol gan ennill tair gradd A*! Graddau disgwyliedig Daisy oedd dau A a B. ‘Rwy’n dal i fod mewn sioc. Dywedodd fy nhiwtoriaid wrthyf y byddai’n anodd gan fod y llwyth gwaith yn enfawr ond dyna beth yr oeddwn eisiau ei wneud ac ni allwn fod yn hapusach gyda’m canlyniadau’ meddai Daisy.
Mae Daisy yn mynd i Academi Celfyddydau Caerdydd i astudio Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ac mae’n gobeithio arbenigo mewn Darlunio gyda’r bwriad o weithio yn y diwydiant ffilm ryw ddydd.
Parth Dysgu Blaenau Gwent “Rwyf ar ben fy nigon.” Mae gan <strong>Chelsea-Marie Annett 18 oed o Lynebwy ddagrau yn ei llygaid ac mae’n ysgwyd gydag emosiwn wrth iddi brosesu ei chanlyniadau Safon Uwch’.
Gyda gradd A mewn Seicoleg, Gwleidyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol a Bagloriaeth Cymru, mae’n mynd i’r gogledd i astudio Addysg a Seicoleg ym Mhrifysgol Efrog.
“Roeddwn i’n disgwyl graddau B a C,” meddai. “Rwyf wrth fy modd gyda’m canlyniadau – ni allwn fod yn hapusach. Roedd yn rhaid i mi ailsefyll Seicoleg eleni gan fy mod wedi cael gradd D y llynedd, ac mae’r holl diwtoriaid yng Ngholeg Gwent wedi bod mor garedig a chymwynasgar. Mae’n awyrgylch mor gyfeillgar yma.”
Mae Chelsea yn gobeithio mynd ymlaen i astudio gradd Meistr mewn addysg ar ôl iddi orffen ei chwrs gradd.
Mae Emma Rose, sy’n bedwar ar bymtheg oed o Nant-y-glo, wedi dod trwy sawl storm eisoes ar ei thaith tuag at ddod yn feteorolegydd.
Mae’r fyfyrwraig yn dathlu ar ôl darganfod ei bod wedi cael gradd A* yn y Gyfraith, a gradd A mewn Mathemateg a Daearyddiaeth i’w hychwanegu at y radd A yn y Fagloriaeth Gymreig a gafodd y llynedd.
“Roedd gennyf nifer o broblemau personol i’w goresgyn,” meddai. “Roedd yn rhaid i mi dynnu allan o’m harholiadau’r llynedd oherwydd salwch a gwnes i ail-wneud y flwyddyn.” Mae ei dyfalbarhad wedi talu, ac mae hi bellach ar ei ffordd i Brifysgol Abertawe i astudio Daearyddiaeth Ffisegol.
“Gwnes i fwynhau cymaint mwy hamddenol oedd Coleg Gwent o’i gymharu â’r ysgol,” ychwanegodd. “Mae’r sesiynau un i un gyda’r tiwtoriaid yn ei gwneud hi’n llawer mwy personol ac mae fy nhiwtor Daearyddiaeth, Nicola Gatesman wedi bod yn rhyfeddol. Mae hi wir wedi fy ysbrydoli a’m hannog i.”
Nid yw Myles Davies 19 oed o Abertyleri yn ddieithr i’r Coleg ar ôl astudio ei gwrs Safon Uwch olaf eleni, gan ennill gradd A* mewn Mathemateg Bellach. Enillodd radd A* mewn Mathemateg a gradd A mewn Cemeg y llynedd, “Rwy’n hapus iawn gyda’m canlyniadau ac yn edrych ymlaen at astudio Mathemateg yn Nottingham.”
“Mae’r gefnogaeth yn y Coleg wedi bod yn wych, yn enwedig yr athrawon yma”, ychwanegodd Miles.
Dywedodd y Pennaeth Guy Lacey: “Rydym yn hynod falch gyda’r cyflawniadau hyn, sy’n adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled y myfyrwyr a’r staff yma yn y coleg. Coleg Gwent yw un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru ac mae’r canlyniadau hyn yn dyst i safon yr addysg y gall myfyrwyr ei ddisgwyl pan fyddant yn astudio gyda ni.
“Rydym yn anfon llongyfarchiadau twymgalon at ein holl fyfyrwyr Safon Uwch ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol,” ychwanegodd.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Meredith, Aelod Gweithredol dros Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent: “Da iawn a llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Safon Uwch ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent ar set arall o ganlyniadau gwych heddiw.
“Mae’n wych gweld ein dysgwyr ôl-16 yn cyflawni eu potensial llawn ac yn mynd ymlaen i’w llwybr gyrfa dewisol, a dymunwn y gorau iddynt yn y dyfodol. Rhaid i ni hefyd gydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff addysgu a chefnogaeth teuluoedd y myfyrwyr sydd i gyd yn rhan hollbwysig o’r llwyddiant hwn.”