Sut i wneud cais am gwrs rhan amser
Ar ôl dod o hyd i gwrs mae gennych ddiddordeb ynddo, mae gwneud cais yn hawdd – cliciwch ar y ddolen gwneud cais nawr ar waelod tudalen y cwrs o’ch dewis i roi cychwyn arni. Rhennir y cais yn bum cam hawdd, ac mae’n cymryd ychydig o funudau i’w gwblhau.
Os hoffech fwy o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ein Tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar ar 01495 333777 neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk.
Derbyn cynnig
Os oes gan eich cwrs ofynion mynediad penodol, byddwn yn asesu eich cais yn seiliedig ar y cwestiwn a ydych yn bodloni’r meini prawf, ac yn cynnig lle amodol i chi yn y coleg.
Sicrhewch fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir ar eich cais, gan y byddwn yn anfon diweddariadau rheolaidd i’r cyfeiriad y byddwch yn ei nodi.
Cofrestru ar eich cwrs
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd angen i chi ddod i’r coleg i gofrestru’n agosach at eich dyddiad cychwyn.
Bydd angen i chi ddod â:
- Manylion personol (yn cynnwys cyfeiriad post llawn)
- Ffordd o dalu (cerdyn debyd/credyd, manylion banc) ar gyfer unrhyw ffioedd dysgu sy’n ddyledus (a ffioedd cofrestru ac arholiad os ydych yn gwneud cais ar y diwrnod)
- ID Llun (trwydded yrru/pasbort)
- Rhif Yswiriant Gwladol (gweler ar slipiau cyflog, cerdyn Yswiriant Gwladol)