Cwrs Paratoi ar gyfer Mynediad
Mynediad at Addysg Uwch
Bydd cwrs Mynediad at Addysg Uwch (AU) yn eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i’ch paratoi at y brifysgol.
Efallai eich bod yn teimlo ychydig yn nerfus ynghylch dychwelyd i astudio – yn enwedig os nad ydych wedi bod mewn dosbarth ers peth amser. Mae ein tiwtoriaid yn ymwybodol o hyn ac yn ei gymryd i ystyriaeth yn eu haddysgu; ni fyddwn yn ceisio eich baglu, nac yn eich profi ar bethau rydych wedi’u hanghofio flynyddoedd yn ôl. Bwriad y cwrs yw eich herio chi, ond yn y pen draw, y nod yw eich helpu i lwyddo.
Rydym ni’n gwybod bod gennych chi, fel oedolyn, gyfrifoldebau ac ymrwymiadau y mae angen eu hystyried ochr yn ochr â’ch astudiaeth, boed hynny’n ymwneud â magu plant, gofalu am eich teulu, neu ennill arian i dalu’r biliau. Mae ein tiwtoriaid yn ymwybodol o ymrwymiadau eraill, felly maen nhw’n garedig, yn gefnogol ac yn hyblyg. Efallai y byddwch yn gymwys i gael grantiau a chymorth ariannol i’ch helpu gyda chostau astudio hyd yn oed.
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.
Roedd ysgol yn anodd gan nad oedd gennyf gefnogaeth. Ers bod yn Coleg Gwent rwyf wedi gwneud ffrindiau, magu hyder, a nawr fy nod hirdymor yw bod yn Nyrs A&E
Cait Griffin
Mynediad i Addysg Uwch (Nyrsio)
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr