4 Chwefror 2025
Ydych chi’n ystyried addysg uwch (cyrsiau lefel prifysgol) ond yn teimlo wedi’ch gorlethu gan yr holl fythau rydych chi wedi clywed? Peidiwch â phoeni – rydym ni yma i gywiro’r cofnod.
“Mae’n rhy ddrud!”
Cyn dechrau cyfri ceiniogau, tyrd i chwalu’r myth hwn. Oes, mae yna gostau, ond mae modd i chi wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu gan Gyllid Myfyrwyr Cymru i dalu’r ffioedd.
Unwaith eich bod wedi gorffen eich cwrs, bydd ad-daliadau ond yn dechrau unwaith eich bod yn ennill dros £31,395 y flwyddyn. Os nad ydych chi mewn cyflogaeth, neu’n cymryd seibiant, yna does dim rhaid i chi dalu.
Hefyd, mae yna lwyth o grantiau, bwrsariaethau a chymorthdaliadau eraill ar gael i’ch helpu i ddelio â chostau byw wrth astudio. Ewch i’n gwefan am yr holl fanylion.
“Dw i ddim yn gallu cydbwyso astudio gyda’r gwaith neu fywyd teuluol!”
Mae hynny hefyd yn anghywir! Mae’r rhan fwyaf o’n cyrsiau lefel prifysgol dim ond yn rhedeg 2 i 3 diwrnod y flwyddyn. Felly, p’un a ydych chi’n jyglo gwaith rhan-amser gyda magu teulu neu ymrwymiadau eraill, mae gennych chi ddigonedd o hyblygrwydd.
“Mae addysg uwch i bobl ifanc yn unig.”
Ddim o gwbl! Mae llawer o oedolion yn dychwelyd i addysg yn hwyrach mewn bywyd, p’un a yw i ddringo’r ysgol yrfa, newid gyrfaoedd neu dim ond i ddysgu rhywbeth y maen nhw’n angerddol amdano. Yn Coleg Gwent, byddwch chi’n cwrdd â llwyth o fyfyrwyr o bob oedran sy’n gweithio tuag at eu graddau, sef prawf nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu.
“Rhaid i chi gael lefelau A i ddilyn cwrs addysg uwch.”
Anghywir. Mae gennym ni ofynion mynediad wrth gwrs, ond nid yw’r rhain yn hollol derfynol. Os oes gennych chi brofiad gwaith neu gyflawniadau personol, cysylltwch â ni gan efallai byddwch chi’n bodloni’r gofynion mynediad. Gall ein tîm Addysg Uwch cyfeillgar helpu chi i wneud penderfyniad ar eich camau nesaf.
“Allwch chi ddim cael gradd lawn yn y coleg.”
Gallwch. Mae llawer o’n cyrsiau yn dechrau gyda HNC/HND neu radd sylfaen sy’n para dwy flynedd. Gallwch chi wedyn symud ymlaen i astudio cwrs “atodol” un flwyddyn o hyd er mwyn ennill gradd anrhydedd lawn. Os yw eich cwrs yn achrededig gan brifysgol, bydd modd i chi hyd yn oed fynychu’r seremoni raddio.
“Mae gwneud cais yn anodd.”
Mae gwneud cais mor hawdd, mae’n cymryd llai o amser na gwneud paned o de. Dim traethodau a datganiadau personol cymhleth – dim ond ffurflen sydyn gyda’ch manylion chi sy’n mynd yn syth i’n gwefan.
“Dyw cyrsiau ddim yn raddau go iawn achos bod nhw mewn coleg addysg bellach.”
Mae hyn yn anghywir. Mae ein cyrsiau wedi’u hachredu gan brifysgolion megis Prifysgol De Cymru, Met Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth a Pearson. Byddwch chi felly yn ennill gradd gydnabyddedig a bydd modd i chi aros yn yr ardal. Yn ogystal, bydd mynediad gennych chi at holl gyfleusterau ac adnoddau’r prifysgolion partner.
Yn barod i droi eich angerdd yn broffesiwn? Rydym ni yma i helpu ar bob cam o’r ffordd!
Dysgwch ragor am gyrsiau Addysg Uwch yma: www.coleggwent.ac.uk/au