En

Taith Coleg Gwent at gampws sy’n gyfeillgar i ddraenogod


11 Hydref 2024

Yma yn Coleg Gwent, yn aml, mae addysg yn mynd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac i mewn i’r byd naturiol. Enghraifft ddisglair o hyn yw cyflawniad myfyrwyr sy’n astudio ar y cwrs gofal anifeiliaid ar ein campws Brynbuga sydd wedi ennill dyfarniad efydd gan fenter Campws sy’n Gyfeillgar i Ddraenogod.

Mae draenogod, a oedd yn cael eu gweld yn aml mewn gerddi ym Mhrydain, bellach yn profi dirywiad yn eu niferoedd. Gan gydnabod pa mor bwysig ydyw i ddiogelu’r creaduriaid pigog hyn, cofleidiodd ein dysgwyr Lefel 3 sy’n astudio ar gwrs gofal anifeiliaid yr her o ennill y dyfarniad.

Cyflawnwyd y dyfarniad o ganlyniad i gynnal llawer o weithgareddau ar draws y campws a’r gymuned ehangach a’r brif nod oedd dod yn gampws sy’n gyfeillgar i ddraenogod.

Mae Sherrie Harris, darlithydd, yn esbonio’r ysbrydoliaeth y tu ôl i ymuno â’r fenter Campws sy’n Gyfeillgar i Ddraenogod: “Pan ddarganfuwyd bod draenogod wedi cael eu gweld o amgylch ein campws, roedd ymuno â’r fenter Campws sy’n Gyfeillgar i Ddraenogod yn gyfle gwych i gysylltu ein dysgu ag achos gwerth chweil. Ar draws pob lefel o’n cyrsiau gofal anifeiliaid, mae dysgwyr yn dysgu am fodiwlau sy’n ymwneud â bywyd gwyllt a chadwraeth lle mae monitro’r bywyd gwyllt ar y campws yn rhan allweddol o’r cwricwlwm.

“Darparodd y Gymdeithas Draenogod, sy’n cynnal y fenter hon yn flynyddol, y llwyfan berffaith i godi ymwybyddiaeth ynghylch y dirywiad yn niferoedd poblogaethau draenogod a sut i greu hafan ddiogel iddynt ar ein campws.”

Cymerodd ein myfyrwyr ran mewn llawer o weithgareddau, o gasglu sbwriel a monitro draenogod (trwy dwneli olion traed ac arolygon cynefinoedd) i drefnu digwyddiadau codi arian ac addysgu’r cyhoedd.

Dywedodd Jessie Ingleson, Cydlynydd y Ganolfan Anifeiliaid: “Un o’r prif uchafbwyntiau oedd ein myfyrwyr yn gwirfoddoli yn y Ganolfan Sgiliau Oedolion, lle roeddent yn cynnal sgyrsiau ac yn arwain gweithgareddau hwyl a oedd yn canolbwyntio ar ddraenogod. Hefyd, ymwelwyd â dysgwyr ag anawsterau dysgu a phroblemau iechyd difrifol gan roi gwersi rhyngweithiol am ddraenogod. Yn ystod y sesiynau hyn, cynhyrchwyd pecynnau gwybodaeth i’w rhannu gyda nhw yn ogystal â chreu draenogod allan o wlân.”

Un o’r darganfyddiadau mwyaf syfrdanol yn ystod y prosiect oedd nifer y draenogod ar y campws. Roedd y myfyrwyr wedi’u cyffroi i fonitro’r draenogod, nid yn unig ar y campws, ond hefyd yn ardal eu cartrefi.

Parhaodd Sherrie: “Ers ennill ein dyfarniad efydd, mae ein campws wedi dod yn amgylchedd sy’n fwy cyfeillgar i ddraenogod. Ar ben hynny, mae ein dysgwyr wedi datblygu eu sgiliau a’u hyder ac ennill profiad gwerthfawr.

“Roedd gweld y dysgwyr yn cymdeithasu gyda’i gilydd ac ennyn diddordeb am fywyd gwyllt lleol yn hyfryd iawn felly mae ein mentrau cyfeillgar i ddraenogod yma i aros! Rydym yn bwriadu cadw’r momentwm i fynd drwy ddilyn canllawiau’r cynllun, codi arian ac ennyn diddordeb cymuned y campws a rhoi gwybodaeth iddynt am bwysigrwydd draenogod. Rydw i, ochr yn ochr â’n dysgwyr, wedi mwynhau gweithio ar y prosiect hwn yn fawr iawn ac rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r cynllun.”

Mae Dyfarniad Campws sy’n Gyfeillgar i Ddraenogod (HFC) yn gynllun dyfarnu cenedlaethol sydd wedi’i ddylunio i ddiogelu draenogod, gwella eu cynefinoedd a chodi ymwybyddiaeth.

Dywedodd Helen Morgan, Pennaeth Ysgol Gweithgareddau ar y Tir: “Mae’r fenter hon yn enghraifft o sut mae ein haelodau staff yn darparu gweithgareddau perthnasol a gwerth chweil i’n dysgwyr wrth astudio ar gyrsiau sy’n ymwneud ag anifeiliaid ar gampws Brynbuga. Hoffwn ddiolch i’r tîm am eu gwaith caled, yn benodol, Sherrie Harris, am fynd y tu hwnt i’r disgwyl o ran ennill y dyfarniad hwn ar ran y coleg a’n dysgwyr. Gwaith gwych gan bawb a gymerodd ran.