En

Hyb Ymgysylltu ag Ysgolion

Ymgysylltu ag Ysgolion yn Coleg Gwent

Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i fagu perthnasoedd cryf â’n hysgolion lleol ac ysgogi myfyrwyr i archwilio’r ystod o lwybrau sydd ar gael iddynt.

Os ydych chi’n chwilio am wasanaeth ysgol i gyflwyno disgyblion i fyd addysg bellach neu weithdy ymarferol pwrpasol wedi’i deilwra i bynciau a llwybrau gyrfa penodol, mae gennym sesiwn sy’n bodloni amcanion eich ysgol.

Sesiynau sydd ar gael:

A) Cyflwyniad i Coleg Gwent (gwasanaeth)

Yn y gwasanaeth 30 munud hwn sy’n ennyn diddordeb, a arweinir gan ein Penaethiaid Gwasanaethau Dysgwyr, bydd disgyblion yn profi cyflwyniad i fywyd yn Coleg Gwent.

Hyd: 30 munud

Lleoliad: Yr ysgol

Cynulleidfa: Blwyddyn 9 / Blwyddyn 10 / Blwyddyn 11

Cyflwynir gan: Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr

Uchafbwyntiau:

  • Fideo wedi’i animeiddio ar Bontio  
  • Trosolwg o fywyd yn y Coleg  
  • Cymorth, Cyllid a Thrafnidiaeth  
  • Arddangos Digwyddiadau sydd Ar Ddod  
  • Sut i gyflwyno cais?   

Yr hyn i’w ddisgwyl 

Mae’r gwasanaeth wedi’i ddylunio i roi trosolwg o Coleg Gwent, ein campysau, ein cyfleusterau a’r mathau o opsiynau astudio.

Gall disgyblion ddisgwyl cael gwybodaeth am bontio o’r ysgol, cymorth, cyllid a’r broses cyflwyno cais.

B) Clinig y Coleg (cymhorthfa ar gyfer cymorth ac arweiniad wrth gyflwyno cais)

Mae’r sesiynau hyn yn fwyaf addas ar gyfer disgyblion sy’n dymuno mynd i’r coleg ar gyfer astudio pellach. Bydd ein tîm cyfeillgar a phrofiadol yn helpu myfyrwyr o ran cyflwyno cais i’r coleg wrth gynnig cyngor amhrisiadwy ar gyllid a thrafnidiaeth.  

Hyd: Hyd at 1 awr 

Lleoliad: Yr ysgol – bydd angen ystafell gyfrifiaduron  

Cynulleidfa: Blwyddyn 10/Blwyddyn 11 

Cyflwynir gan: Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr, Tîm Cymorth CG 

Uchafbwyntiau 

  • Cymorth un i un ar gyfer cyflwyno cais  
  • Arweiniad pwrpasol ar grantiau a thrafnidiaeth 
  • Cyngor gan Gymorth CG sef ein tîm cymorth Coleg Gwent  
  • Sesiynau grŵp bach 

Yr hyn i’w ddisgwyl 

Mae ein staff wrth law i roi arweiniad i’ch disgyblion o ran y broses gyflwyno cais a gallant hefyd eu cynghori ynghylch y pynciau gorau yn seiliedig ar y gyrfaoedd y dymunir eu dilyn.   

Bydd gan ddisgyblion gyfle i ofyn cwestiynau ynghylch opsiynau cyllid a thrafnidiaeth, gan gynnwys cyflwyno cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg a thocyn bws Coleg Gwent. 

C) Gweithdy Pwnc Pwrpasol

Mae ein gweithdai pwnc pwrpasol, a arweinr gan ein staff addysgu profiadol, yn sesiynau rhagarweiniol sy’n para rhwng 1 a 3 awr. Gall y gweithdai gael eu teilwra i gyd-fynd ag anghenion ac oedrannau’r disgyblion, o oedran ysgol gynradd i ddisgyblion Blwyddyn 11. 

Hyd: Rhwng 1 a 3 awr 

Lleoliad: Yn yr ysgol neu ar un o gampysau Coleg Gwent 

Cynulleidfa: Disgyblion ysgol gynradd i ddisgyblion Blwyddyn 11 

Cyflwynir gan: Tiwtoriaid pwnc 

Uchafbwyntiau 

  • Archwilio Pynciau  
  • Cyfleoedd Gyrfa   
  • Cyrsiau yn Coleg Gwent  
  • Sesiynau Rhyngweithiol  
  • Cyflwyno ar y campws neu yn yr ysgol  

Pam dylech chi fynychu?  

Mae gweithdy pwrpasol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio eu diddordebau academaidd a’u diddordebau gyrfa trwy sesiwn ymarferol dan arweiniad ein tiwtoriaid profiadol.  

Ymhlith y sesiynau a gynhaliwyd yn ddiweddar mae gweithdai a oedd yn canolbwyntio ar STEM a Pheirianneg, sgyrsiau ar yrfaoedd, rhagflas ar Godio a TGCh, cyflwyniad i faes gofal plant a llawer mwy! 

D) Noson Rhieni / Gyrfaoedd / Noson Opsiynau

Gallwn fynychu digwyddiad uchod gyda staff yn barod i roi arweiniad a chyngor am ddechrau yn Coleg Gwent.
Hyd: Rhwng 1 a 3 awr
LleoliadYn eich ysgol
CynulleidfaBlwyddyn 9+
Cyflwynir ganTîm Gwasanaethau Dysgwyr neu Tîm Allgymorth
Uchafbwyntiau:  
  • Archwilio Pynciau
  • Cyfleoedd Gyrfa
  • Cyrsiau yn Coleg Gwent
  • Arweiniad Penodol
Staff member talking to parent and young student

Archebion

I drefnu sesiwn, llenwch y ffurflen a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi.

Archebu nawr

Cylchlythyr

Gweld beth rydym yn ei wneud yn eich Cylchlythyr Digwyddiadau ac Allgymorth!

Cofrestrwch nawr!

Hand holding mobile phone
Beth and Brandon

Cysylltu â ni!

Brandon Ham a Beth O’Sullivan
Swyddogion Digwyddiadau ac Allgymorth

 
schools@coleggwent.ac.uk