4 Ebrill 2024
Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall pob dysgwr ffynnu. Wrth i ni ddathlu Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth, hoffem daflu golau ar ymroddiad ac effaith wych staff cymorth megis Rhys Lewis a Stacey Godwin, sy’n dangos gwerthoedd ein coleg sef parch, uniondeb a chynwysoldeb.
Ers mis Medi, mae Rhys a Stacey wedi bod yn rhan hanfodol o gefnogi Kate, dysgwr ag Awtistiaeth, ar ein campws Parth Dysgu Torfaen. Mae eu hymroddiad a’u dulliau arloesol nid yn unig wedi helpu Kate i barhau â’i hastudiaethau ond maent hefyd wedi ei grymuso i ffynnu mewn ffyrdd a oedd yn anodd iddi ar un adeg.
Pan ddechreuodd Kate astudio yn y coleg, roedd hi yn aml yn teimlo ei bod wedi’i llethu ac roedd hi’n cau i lawr. Trwy eu rolau fel Hyfforddwr Awtistiaeth a Chydlynydd yr Ystafell Werdd, dechreuodd Rhys a Stacey weithio gyda Kate gan helpu i greu gofod cyfforddus iddi astudio yn ogystal â dod o hyd i ffyrdd i’w chefnogi yn emosiynol.
Un o’r prif strategaethau a gyflwynwyd oedd cadw dyddiadur. Ar y dechrau, roedd Kate yn betrusgar ond, cyn hir, roedd cadw dyddiadur yn adnodd hanfodol ar gyfer rheoli ei meddyliau a’i theimladau. Trwy arweiniad a chymorth Stacey, mae Kate bellach yn defnyddio ei dyddiadur yn hyderus ac mae hyd yn oed wedi cynnwys tudalen ar gyfer meddyliau cadarnhaol er mwyn llywio’r diwrnodau anodd.
Yn ogystal â rhoi adnoddau i Kate reoli ei hachosion o gau i lawr, hefyd rhoddodd Rhys a Stacey ystyriaeth i sut i greu gofod astudio i Kate a oedd yn bodloni ei hanghenion. Esboniodd Kate fod eistedd ar y llawr yn fwy cyfforddus felly, gyda chymorth tîm y llyfrgell, prynwyd matiau llawr arbennig a bwrdd symudol iddi. Mae’r matiau hyn bellach ar gael i ddysgwyr eraill eu defnyddio hefyd.
Er bod Kate wedi profi cynnydd sylweddol, mae Rhys a Stacey yn ystyried ffyrdd o roi cymorth iddi y tu allan i’r coleg. Mae Rhys a Stacey wedi gofyn am gymorth gan asiantaethau allanol i sicrhau ei bod hi’n derbyn y cymorth y mae ei angen arni yn ei chartref. Ar ben hynny, mae Stacey wedi helpu Kate i ennill rôl wirfoddoli, gan ddarparu cysondeb a sefydlogrwydd yn ystod gwyliau hanner tymor.
Yma yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol sy’n groesawgar ac yn gefnogol ar gyfer dysgwyr ag Awtistiaeth ac aelodau staff. Mae hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant nid yn unig o fudd i’n myfyrwyr ag Awtistiaeth, mae hefyd yn cyfoethogi’r profiad dysgu i bawb.
Wrth i ni ddathlu Wythnos Derbyn Awtistiaeth, gadewch i ni nid yn unig godi ymwybyddiaeth ond, hefyd, dathlu cyflawniadau a chyfraniadau unigolion megis Rhys, Stacey a Kate.
Dewch o hyd i’r cymorth sydd ar gael i ddysgwyr ag Awtistiaeth yn Coleg Gwent yma neu dewch i un o’n digwyddiadau agored sydd ar ddod i gyfarfod â’n staff cymorth.
I gofrestru, ewch i www.coleggwent.ac.uk/agored