Cydweithio
Mae llesiant a llwyddiant eich plentyn tra ei fod yn ein gofal yn hynod bwysig i ni. Ein nod yw rhoi’r un cyfle i bawb lwyddo, beth bynnag eu hil, crefydd, rhywedd, rhywedd a ailbennwyd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu oedran.
Dyma ein prif gwestiynau cyffredin, ond os oes gennych gwestiynau o hyd, bydd tîm Recriwtio Myfyrwyr wastad yn hapus i helpu.
Cwestiynau Cyffredin
Pam ddylai fy mhlentyn fynychu Coleg Gwent?
Fel un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru, mae ein dysgwyr yn cyflawni canlyniadau a chyfraddau llwyddiant rhagorol, gyda chanlyniadau Lefel A cyson uchel. Rydym hefyd yn gydradd gyntaf ar gyfer canlyniadau galwedigaethol. Gallwch gymryd golwg ar ein rhestr hir o wobrau ac anrhydeddau.
Sut ydw i’n cadw’n gyfoes gyda chynnydd fy mhlentyn?
Ein nod yw eich hysbysu’n llawn am gynnydd eich plentyn drwy nosweithiau rhieni, llythyrau ac adroddiadau rheolaidd. Rydym wastad yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau a fydd gennych, neu gallwch gysylltu â’i diwtor personol i drafod unrhyw bryderon.
Rydym yn cydnabod ac yn croesawu’r cyfraniad y gall rhieni/gofalwyr ei wneud i lwyddiant eich plentyn. Rydym yn monitro cynnydd pwnc, presenoldeb, cymhelliant a llesiant cyffredinol yn gyson. Yn seiliedig ar y monitro hwn, cynhyrchwn adroddiadau pwnc manwl yn rheolaidd ac yn eu hanfon yn uniongyrchol atoch chi.
Beth ydych chi'n ei ddisgwyl gan fy mhlentyn?
Rydym am i bawb fwynhau eu hamser yn y coleg ac rydym yn disgwyl ymddygiad da gan bob myfyriwr, gan gynnwys parch at eraill. Rydym hefyd yn disgwyl i bob myfyriwr anelu at bresenoldeb a phrydlondeb 100%. Mae’n bwysig ei fod yn mynychu pob gwers yn rheolaidd ac yn brydlon, gan fydd cofnod presenoldeb gwael yn effeithio ar ei gyflawniad a’i hawl i grantiau, a gall hyn ei atal rhag sefyll arholiadau.
Pwy fydd yn 'gwylio dros' fy mhlentyn pan fydd yn y coleg?
Mae diogelwch a llesiant myfyrwyr yn flaenoriaeth i ni, ac felly mae gan bob person ifanc sy’n astudio gyda ni diwtor personol. Mae ein holl staff yn ymgymryd â hyfforddiant diogelu ac mae ein rhwydwaith cymorth helaeth yn sicrhau ei fod yn ddiogel a’i fod gyda mynediad at wasanaethau cymorth sy’n bodloni ei anghenion unigol.
Os credwch y gallai fod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol ar eich mab neu ferch yn y coleg, rhowch wybod i ni. Mae’r Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yn darparu cymorth i ddysgwyr ag anawsterau neu anableddau a allai fod angen darpariaeth cymorth sy’n ychwanegol at y cymorth cyffredinol a ddarperir i bob dysgwr.
A oes unrhyw gymorth ariannol ar gael?
Yn dibynnu ar gwrs dewisol ac oedran eich plentyn ac incwm eich cartref, efallai bydd eich plentyn yn gymwys ar gyfer gwahanol ffyrdd o gymorth ariannol megis Lwfans Cynhaliaeth Addysg wythnosol (LCA), prydau cinio am ddim a theithiau i’r coleg am ddim.