21 Chwefror 2023
Mae gwledd o dalent yn y Coleg ac mae hynny’n amlwg o blith y dysgwyr yn Ysgol Roc Parth Dysgu Blaenau Gwent. O ddal sylw cynhyrchwyr recordiau sydd wedi gweithio gyda phobl megis Tom Odell, James Arthur ac Oasis, i chwarae ar BBC Wales Introducing, a hyd yn oed cael eu chwilota gan label recordiau o Gymru!
Mae’r Ysgol Roc yn rhaglen a anelir at wella sgiliau ysgrifennu caneuon y dysgwr cerddoriaeth ynghyd â’u rhannu gyda’r gymuned ehangach. Mae’n gweithio ochr yn ochr â’i brif gwrs gan ddatblygu ei unedau cyfansoddi a pherfformiad byw.
Yn ogystal â’r dysgwyr, mae’r tîm cyfan yn ddawnus gan gynnwys aelodau staff â sgiliau sylweddol:
Daniel Richards
Mae Daniel, sy’n ddarlithydd mewn cerddoriaeth, wedi gweithio gyda Bonnie Tyler, Rob Brydon a Ruth Jones i enwi ond rhai yn unig. Mae e hefyd wedi cynorthwyo yn y West End ac mae’n arbenigwr o ran helpu ein hegin sêr roc i gadw eu traed ar y ddaear.
Holly Ellis
Mae Holly, cyd-ddarlithydd ac arweinydd Lefel A ar gyfer Cerddoriaeth yn defnyddio ei phrofiad i redeg yr ochr glasurol. Mae ei sgiliau delweddu a hyrwyddo yn wych gan roi cyfleoedd i’r dysgwyr y tu allan i’r Coleg megis chwarae gigiau yn y gymuned!
Tommy Haynes
Mae Tommy yn aelod newydd o’r tîm ac mae’n gyn-ddisgybl o ICMP (Prifysgol Gerddoriaeth ac Ysgol Berfformio yn Llundain) ac mae’n gyn-ddysgwr yn Coleg Gwent gan ennill ei gymhwyster TAR yma! Mae e’n ysgrifennwr caneuon da iawn gan ddod o gefndir technoleg gerddoriaeth sy’n cynorthwyo â’r ochr cynhyrchu cerddoriaeth.
Alan Nash
Mae Alan, Gweithiwr Cymorth, wedi dod yn enw cyfarwydd iawn yn yr adran. Gan roi cymorth gwych o ran ysgrifennu a chyngor, mae e’n ymarferol ac yn gefnogol. Pan fydd y myfyrwyr yn chwarae gig, gallwch chi warantu y bydd Alan yno.
Gyda’i gilydd, mae ein haelodau staff a’n dysgwyr wedi cyflawni pethau anhygoel. Yn ystod y cyfnod clo, crëwyd disg gryno gan, wedyn, chwarae gigiau i’w hyrwyddo pan gafodd y cyfyngiadau eu codi. Ym mis Rhagfyr, cynhaliwyd sioe Nadolig ac roedd dros 100 o bobl yn bresennol – roedd llawer o aelodau’r gynulleidfa yn arbenigwyr yn niwydiant cerddoriaeth a bydd un o’r bandiau hyd yn oed yn perfformio yn rowndiau terfynol Sgiliau Cymru.
“Rydym yn awyddus i’w gweld yn datblygu ac yn ehangu fel artistiaid. Mae eu gweld yn perfformio, yn llwyddo ac yn cyflawni yn wobrwyol iawn. Mae gigiau a theithiau ar y gorwel felly cadwch lygad allan – rydym bob amser yn croesawu eich cefnogaeth!” – Daniel Richards
Archwiliwch ein cyrsiau ac ymgeisiwch heddiw!