8 Chwefror 2023
Llongyfarchiadau i 3 myfyriwr talentog Coleg Gwent sydd wedi cael eu dewis o blith cannoedd o gystadleuwyr i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yng Ngharfan Genedlaethol WorldSkills y DU.
Llongyfarchiadau i 3 myfyriwr talentog Coleg Gwent sydd wedi cael eu dewis o blith cannoedd o gystadleuwyr i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yng Ngharfan Genedlaethol WorldSkills y DU. Mae’r garfan yn cynnwys 94 o bobl ifanc sydd wedi rhagori mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol trwy gydol y flwyddyn ar draws 27 o wahanol sgiliau. Mae’r gystadleuaeth am lefydd yn y garfan yn ffyrnig, gyda dim ond y myfyrwyr mwyaf talentog yn cael eu dewis.
Er mwyn eu paratoi ar gyfer her y gystadleuaeth ryngwladol, bydd y tîm yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi ddwys 18 mis o hyd, gyda hyfforddiant gan hyfforddwyr medrus iawn, arbenigwyr diwydiant, cyn-enillwyr medalau a hyfforddwyr perfformiad.
Daw nifer o’r hyfforddwyr hyn o golegau sy’n rhan o Ganolfan Ragoriaeth WorldSkills y DU. Nod y rhaglen hon yw codi safonau mewn prentisiaethau ac addysg dechnegol, gan helpu i hybu twf economaidd, creu swyddi a lefelu i fyny’r wlad. Rydym yn falch o fod yn un o’r 20 coleg cyntaf i fod yn rhan o’r cynllun arloesol hwn, gyda nifer o’n tiwtoriaid yn cymryd rhan mewn rhaglenni mentoriaeth i’w galluogi i ddod â’r safonau uchaf i’n myfyrwyr.
Trwy gydol y broses hyfforddi bydd aelodau’r garfan yn anelu at brofi bod ganddyn nhw’r hyn sydd ei angen i gystadlu yn erbyn y goreuon o weddill y byd, fel rhan o’r ‘Gemau Olympaidd sgiliau’ yn Lyon ym mis Medi 2024.
Dewch i gwrdd â dysgwyr talentog Coleg Gwent sydd wedi cael eu dewis fel aelodau o Garfan Genedlaethol WorldSkills y DU:
Ryan Williams, 18, Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau
Roedd Ryan Williams, cystadleuydd Celf Gemau Digidol 3D a enillodd fedal aur, yn gweld Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills fel cyfle gwych i brofi ei sgiliau a chael cipolwg ar y diwydiant Gemau.
Niah Lewis, 18, Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau
Roedd cystadleuydd Celf Gemau Digidol 3D, Niah Lewis, wrth ei bodd gyda’r holl brofiad o gystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.
Hannah Cooper, 21, Coginio Proffesiynol Lefel 3
Mwynhaodd Hannah Cooper, cystadleuydd y Gwasanaeth Bwyty, ddysgu sgiliau newydd a chwblhau’r tasgau flambé.
Wrth siarad am y broses ddethol a chystadlu, dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol WorldSkills y DU, Ben Blackledge:
“Mae hon yn foment a fydd yn newid bywydau’r 94 aelod o’n carfan, wrth iddynt baratoi at gystadlu’n rhyngwladol. Mae’r rhain yn gyfleoedd mor bwysig i godi proffil a mawredd sgiliau’r DU a’n galluogi i drosglwyddo’r mewnwelediadau a’r arferion gorau o wledydd eraill er mwyn gyrru safonau nôl adref.”
Cadwch eich llygaid ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol wrth i Ryan, Niah a Hannah ddechrau ar eu taith tuag at gystadlu yn Lyon. Darganfyddwch fwy am gystadlaethau sgiliau yng Ngholeg Gwent.