1 Rhagfyr 2022
Roedd ein hadran Ymgysylltu â Chyflogwyr yn falch o noddi’r Wobr Cyflawniad Oes yng Ngwobrau Busnes Argus De Cymru eleni, a gynhaliwyd ddydd Iau 24 Tachwedd. Cynhaliwyd y digwyddiad ar gampws Prifysgol De Cymru yng Nghasnewydd ac fe wnaeth gwahoddedigion fwynhau dathliad gwych o lwyddiant busnesau lleol drwy gydol y noson.
Mae Coleg Gwent yn frwd dros hirhoedledd a llewyrch y busnesau yn ein hardal leol. Mae ein tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yn gweithio’n agos gyda’n cymuned fusnes leol, gyda’r nod o gynorthwyo i sicrhau dyfodol y busnesau yn ardal De Ddwyrain Cymru
Rydym felly’n dewis noddi’r Wobr Cyflawniad Oes yng Ngwobrau Busnes Argus De Cymru gan ei fod yn adlewyrchu ein gwerthoedd o ran hirhoedledd a llwyddiant busnes, gan amlygu’r effaith gadarnhaol y gall buddsoddiad i ddyfodol sefydliad ei gael. Llongyfarchiadau anferth i enillydd y categori, Peter James o Cintec International. Mae Cintec, a sefydlwyd yn 1984, yn arbenigo mewn systemau atgyfnerthu ac angori patent y gellir eu hôl-osod, yn cynnwys gwaith ar nifer o adeiladau treftadaeth fwyaf eiconig y byd, yn cynnwys Palas Buckingham, y Tŷ Gwyn a hyd yn oed y pyramidiau yn yr Aifft.
Mae Ymgysylltu â Chyflogwyr yn flaenoriaeth allweddol yn Coleg Gwent, lle’r ydym yn cynorthwyo twf economaidd lleol a bywiogi ein cymuned fusnes leol. Rydym hefyd yn hyrwyddo cymaint o gyfleoedd â phosib i’n myfyrwyr ac eisiau adfywio ein cysylltiadau â diwydiant yn ein hardal leol er mwyn creu myfyrwyr ysgogol a pharod am waith pan maent yn gadael.
Rydym yn gwneud hyn drwy gyfres o fentrau sy’n cynnwys prentisiaethau, darparu mynediad i arian y llywodraeth, hyfforddiant achrededig i sefydliadau a’r cyfle i ddod yn gyflogwr partner gan chwarae rhan yng ngweithlu lleol y dyfodol.
“Roeddem yn falch o noddi Gwobrau Busnes Argus De Cymru eleni ac fe wnaethom fwynhau dathliad gwych o lwyddiant lleol ar y noson.
Fel coleg, rydym wedi ymrwymo i ddathlu a chefnogi ein cymuned fusnes leol, fel y gwelir drwy’r partneriaethau cadarn rydym wedi eu meithrin gyda sefydliadau ar draws ardal De Cymru. Rydym yn gobeithio parhau i adeiladau ar y rhain dros y blynyddoedd nesaf ynghyd â gwneud cysylltiadau busnes newydd, gan weithio mewn partneriaeth i ddod â manteision cyffredin i sefydliadau a gweithlu’r dyfodol.”
Llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr haeddiannol ar y noson a diolch i chi am eich ymrwymiad parhaus i’r gymuned fusnes yn Ne Ddwyrain Cymru.