En

Moduro

Ydych chi’n frwdfrydig am geir ac eisiau gweithio o fewn y diwydiant cerbydau modur, neu chwaraeon moduro?

Gyda dros 38 miliwn o gerbydau yn y DU, mae’r sector modurol yn ddiwydiant cyflym i weithio ynddo. Rydym yn dibynnu ar geir i’n cludo o A i B, rydym hefyd yn dibynnu ar dechnegwyr cerbydau i drwsio pethau pan fyddant yn mynd o chwith. Felly, gallai cwrs modurol yn Coleg Gwent fod yn ddechrau taith gyffrous i chi

Mae ein cyrsiau yn rhoi hyfforddiant ymarferol i chi mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau. Byddwch yn cael dealltwriaeth gynhwysfawr o systemau cerbydau, diagnosteg, a thechnegau atgyweirio a gwybodaeth am y diwydiant.

Rydym yn falch o fod yn ddarparwr hyfforddiant modurol gorau yn Ne Cymru, gyda chanolfan Achredu Technegydd Modurol (ATA). Gan ddefnyddio ein cyfleusterau o’r radd flaenaf, cewch gyfle i weithio ar amrywiaeth o gerbydau. Mae’r rhain yn cynnwys diesel, petrol, hybrid, cerbydau trydan, beiciau modur a’n car rasio Coleg Gwent ein hunain.

Eisiau rhoi hwb i yrfa werth chweil mewn atgyweirio damweiniau cerbydau? Mae ein Lefel 1 Atgyweirio Damweiniau Cerbyd yn cynnig sylfaen gadarn mewn paent ac atgyweirio corff ceir. Byddwch yn cael y cyfle i ddefnyddio ein bwth chwistrellu ceir arbenigol, sef yr unig un o’i fath yng Nghymru, yn ogystal â’n gweithdai atgyweirio corff a pheirianneg.

Ar ôl gorffen y cwrs Lefel 1, gallwch symud ymlaen i’n cwrs Lefel 2 lle gallwch arbenigo mewn naill ai paent neu atgyweirio corff.

Ydych chi’n angerddol am gyflymder, manwl gywirdeb, a gwthio terfynau perfformiad? Mae ein cwrs chwaraeon modur yw eich tocyn i droi’r angerdd hwnnw yn yrfa wefreiddiol. Gall ein harbenigedd a’n hoffer eich helpu i wireddu’ch breuddwyd o weithio gyda thimau rasio proffesiynol, dylunio cerbydau perfformiad uchel, neu feistroli peirianneg chwaraeon modur.

Byddwch yn dysgu gan weithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant gyda blynyddoedd o brofiad mewn chwaraeon modur. O hanfodion dynameg cerbydau i egwyddorion peirianneg uwch, mae’r cwrs yn ymdrin â phob agwedd ar chwaraeon modur.

Ar ôl gorffen eich cwrs, gallwch ymuno â’r gweithlu neu ddewis arbenigo gyda mwy o hyfforddiant. Felly, dewch i ymuno â ni i roi hwb i’ch gyrfa yn y diwydiant cerbydau modur!

P’un ai ceir clasurol, beiciau modur neu Formula 1 sy’n eich cyffroi, mae llawer o opsiynau o safbwynt gyrfaoedd lle cewch weithio gyda cherbydau modur, gan gynnwys:

  • Peiriannydd modurol
  • Rheolwr
  • Mecanydd ceir
  • Ffitiwr
  • Technegydd
  • Paentiwr Cerbydau
  • Atgyweiriwr Cyrff Cerbydau
  • Peiriannydd Chwaraeon Moduro
  • Peiriannydd Rasys

Ein cyrsiau llawn amser Ein cyrsiau rhan amser

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

15 cwrs ar gael

Dydw i erioed wedi gweithio ar geir o’r blaen, felly roeddwn i’n nerfus yn dod i’r coleg. Ond byddwn yn argymell Coleg Gwent i unrhyw un sydd eisiau gwneud peirianneg fodurol gan fy mod wedi dysgu cymaint mewn blwyddyn. Mae’r cyfleusterau yma o’r un safon ag y byddech chi’n ei gael yn y rhan fwyaf o garejys, gyda llawer o geir i ymarfer arnynt.

Courtney Williams
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau, Lefel 3

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau