13 Hydref 2022
Neithiwr, dathlodd ein myfyrwyr addysg uwch eu cyflawniadau mewn digwyddiad dynodedig yng Nghlwb Golff Bryn Meadows – un o’n partneriaid addewid y gweithwyr lleol. Mynychodd dros 150 o westeion y digwyddiad i gydnabod gwaith caled a llwyddiant ein dysgwyr ysbrydoledig ar draws ystod o gyrsiau lefel prifysgol.
Dathlodd y digwyddiad raddio dysgwyr Pearson a gwblhaodd gyrsiau HNC a HND mewn celfyddydau perfformio a cholur arbenigol, adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, peirianneg sifil, gweithgynhyrchu uwch, a pheirianneg drydanol yn Coleg Gwent. Gan nad oes gan Pearson eu seremoni graddio eu hunain, rydym yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr dderbyn tystysgrifau graddio, i nodi eu cyflawniad wrth iddynt fynd ymlaen o’r coleg i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.
Ochr yn ochr â seremonïau graddio Pearson, enwebwyd myfyrwyr addysg uwch o bob rhan o’r coleg ar gyfer rhestr o wobrau arbennig, yn cynnwys Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn, Cyflawnwr Uchel, Dysgwr Ysbrydoledig, a Goresgyn Trallod Roedd yna hefyd Wobr Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn i fyfyriwr o bob un o’n cyfranogwyr prifysgol partner – Aberystwyth, Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Caerwrangon, a Pearson.
Enwebodd staff y dysgwyr oedd ar eu cwrs yn seiliedig ar eu hymrwymiad i’w hastudiaethau, eu cyflawniadau a’u cynnydd yn ystod eu hamser yn Coleg Gwent. Tynnodd y beirniad restr fer o gannoedd o fyfyrwyr ar gyfer y gwobrau mawreddog, cyn dewis enillwyr, a dysgwyr a ddaeth yn ail gyda chanmoliaeth uchel, o bob categori.
Llongyfarchiadau enfawr i bawb a enwebwyd a’r enillwyr haeddiannol:
Yn ogystal â gwobrau’r dysgwyr, roedd yna wobr Aelod o Staff Addysg Uwch y Flwyddyn, ble roedd modd i’n dysgwyr enwebu eu tiwtoriaid a diolch iddynt am eu cymorth. Llongyfarchiadau i Tracey Dobbs & Peter Britton am ennill y gydnabyddiaeth hon.
Gyda diodydd croeso, bwyd bys a bawd, bwth tynnu lluniau, telynor talentog, a sgwrs ysbrydoledig gan Becky Legge o Fragdy Tiny Rebel, cyn-fyfyriwr o Coleg Gwent, roedd yn noson i’w chofio i’n dysgwyr a oedd yn graddio. Wrth gwblhau cwrs addysg uwch yn Coleg Gwent, maent yn gadael y coleg gyda chymhwyster lefel prifysgol sy’n eu galluogi i gyflawni eu huchelgais a datblygu eu gyrfa. Felly, llongyfarchiadau i’n dosbarth addysg uwch 2022!
Cewch fwy o wybodaeth am ein cyrsiau addysg uwch – mae cymhwyster lefel prifysgol o fewn eich gafael.