18 Awst 2022
O’r diwedd mae’r holl ddisgwyl ar ben wrth i ddysgwyr a staff ddathlu blwyddyn anhygoel arall o ganlyniadau Safon Uwch a BTEC yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru. Wedi blwyddyn anodd i ddysgwyr, gwelsom rai canlyniadau cryf iawn heddiw, gyda pherfformiad rhagorol yn y graddau uwch A*-C ar 79.2% a bron i draean o’r dysgwyr yn cyflawni graddau A*-A. Golyga hyn bod y rhan helaeth o’r dysgwyr wedi llwyddo i gael lle yn eu dewis cyntaf o brifysgol.
Yn y flwyddyn gyntaf o arholiadau ers cyfnod y pandemig, safodd 1,324 o fyfyrwyr arholiadau Lefel A/UG, ac astudiodd 1,045 o ddysgwyr gymwysterau BTEC galwedigaethol Lefel 3 ar draws Coleg Gwent eleni. Rydym wedi parhau i addasu i fodloni anghenion dysgwyr drwy amgylchedd sy’n newid yn barhaus wedi’r pandemig, gan gefnogi amryw o’n myfyrwyr wrth iddynt brofi arholiadau am y tro cyntaf.
Diolch i wytnwch a gwaith caled ein dysgwyr, gyda chymorth parhaus ein tiwtoriaid a’n staff, rydym yn gallu brolio canlyniadau deilliannau ein dysgwyr 2022 mewn modd hynod o falch heddiw. Rydym yn dathlu cyfradd lwyddo Safon Uwch traws-gampws gref iawn, er gwaethaf y problemau a achoswyd gan COVID i’n holl waith dysgu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Dyfarnwyd y graddau uchaf o A* i 79 o fyfyrwyr penigamp. Cafodd saith o’r rhain bedair gradd A/A* a chafodd 50 dair gradd A/A*, gydag amryw o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio yn Oxbridge a phrifysgolion Russell Group a Sutton Trust eraill.
Yn y cyfamser, ymunodd y dysgwyr BTEC â’r dathliadau eleni hefyd, gan dderbyn canlyniadau ar draws 40 o wahanol bynciau galwedigaethol, a chael llefydd mewn amryw o brifysgolion, prentisiaethau a gyrfaoedd. Felly hefyd, mae dros 180 o ddysgwyr sy’n oedolion wedi cwblhau cwrs Agored Mynediad at Addysg Uwch yn llwyddiannus gyda Coleg Gwent a byddant yn mynd ymlaen i astudio cwrs gradd mewn prifysgol.
Dywedodd yr Is-ganghellor, Nicola Gamlin; “Rydym yn falch iawn o gyflawniad ein myfyrwyr eleni a dymunwn ddiolch i’n staff rhagorol a roddodd gefnogaeth iddynt drwy gyfnod anodd. Er gwaethaf yr ansicrwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, unwaith eto mae ein dysgwyr wedi ennill graddau rhagorol.”
Dywedodd Ian Millward, Cyfarwyddwr y Gyfadran Mentergarwch ac Astudiaethau Academaidd; “Gwelsom set ragorol o ganlyniadau a fydd yn galluogi’r rhan helaeth o’n dysgwyr i fynd i’w dewis cyntaf o brifysgol. Gwnaed hyn yn bosibl oherwydd gallu ac ymroddiad y staff a gwaith caled ein dysgwyr.”
Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr a gafodd eu canlyniadau heddiw. Darllenwch rai o straeon o lwyddiant ein dysgwyr isod – nid yw hi’n rhy hwyr i ymgeisio nawr gan ddilyn yr un llwybr â hwythau ym mis Medi:
Llongyfarchiadau i’r myfyriwr iaith Gymraeg, Evan Price, 18 oed, o Bonthir. Gyda graddau A*AA, mae’n mynd i Brifysgol Caergrawnt i astudio Eingl-sacsoneg, Norseg a Chelteg.
Mae Nell Bridges, 18 o Bont-y-pŵl, o Ysgol Gyfun Gwynllyw yn flaenorol, yn camu i fyd cyffrous Prifysgol Caergrawnt ym mis Medi ar ôl ennill graddau A*AA a chael ei derbyn i astudio Daearyddiaeth.
Mae enillydd ‘Myfyrwyr Sbaeneg Gorau yn y DU 2022’ Thomas French, 19, o Gasnewydd, wedi ennill lle ym Mhrifysgol Caergrawnt i astudio Ieithoedd Modern a Chanoloesol, gan sicrhau graddau A*A*A* yn ei bynciau Safon Uwch.
Gydag angerdd am wyddoniaeth, mae Cameron Price, 18 oed o’r Coed Duon yn falch iawn ei fod wedi cael graddau A*AA heddiw mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg Safon Uwch. Mae nawr yn mynd i astudio Gwyddor Fiofeddygol ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda’r nod o ddilyn gyrfa fel meddyg yn y dyfodol.
Cafodd Freya Durban, 19, o Nantyglo, A*A* yn ei chyrsiau Safon Uwch Addysg Seicoleg a Ffotograffiaeth heddiw. O Ysgol Gyfun Brynmawr yn flaenorol, cyflawnodd Freya ei nodau ac mae’n mynd i Brifysgol De Cymru i astudio gradd mewn Chiropracteg.
Yn dilyn ei llwyddiant yn dod yn ail yn yr Her Sgiliau Mentergarwch Cymru eleni, llwyddodd Amelia Skyrme, 17, o Gwmbrân, i gael lle ym Mhrifysgol Lerpwl i astudio Rheolaeth Fusnes, gan sicrhau rhagoriaeth mewn Busnes BTEC.
Enillodd Bethanie Philpott, 18, o Bont-y-pŵl raddau Safon Uwch ABB, gan agor y drws at yrfa gyffrous mewn Busnes a phrentisiaeth mewn Rheoli Prosiectau gyda BT.
Mae gyrfa mewn F1 ar y gweill i Tyler Davies, 18, o Drefgwilym, myfyriwr Peirianneg Chwaraeon Modur Lefel 3 ar ôl iddo gael, graddau rhagoriaeth ac mae nawr yn paratoi i symud ymlaen i gwrs Lefel 4 yn Coleg Gwent ym mis Medi.
Mae Ann Matti, 22, o Gasnewydd, yn mynd i astudio Fferylliaeth ym Mhrifysgol Abertawe wedi iddi ennill rhagoriaeth (D*D*D*), er nad Saesneg yw ei hiaith gyntaf.