En
ILS FEST 2022 – a cross-campus celebration

GŴYL SGILIAU BYW'N ANNIBYNNOL 2022 - dathliad ar draws y campysau


8 Gorffennaf 2022

Ar 16eg Gorffennaf, cynhaliwyd digwyddiad cyffrous ar draws y coleg ar gyfer dysgwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) – Gŵyl Sgiliau Byw’n Annibynnol 2022! Cafodd yr holl staff a dysgwyr ILS o’n 5 campws  eu gwahodd i’r caeau chwarae tu ôl i Barth Dysgu Torfaen yng Nghwmbrân, am ddiwrnod i ddathlu’r gymuned ILS a chymryd rhan mewn ystod o weithgareddau cynhwysol.

Mynychodd 280 o bobl y digwyddiad, a gyda chod gwisg ‘dillad llachar’ ynghyd â chyfres o gystadlaethau a gemau hwyliog, roedd yn ddiwrnod gwych i ddysgwyr a staff. Cynhaliwyd cystadlaethau pêl-droed cyfeillgar a rasys diwrnod mabolgampau traddodiadol cynhwysol i bawb, yn ogystal â dod ag offer o gynllun ‘Gaeaf Llawn Lles’ Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr gael eu mwynhau.

ILS FEST 2022 – a cross-campus celebration

Roedd hyn yn cynnwys peli a dillad pêl-droed, saethyddiaeth, ac offer chwaraeon traddodiadol fel cylchynau, bagiau ffa, sachau ac wyau a llwyau. Creodd y myfyrwyr eu crysau t clymliw eu hunain i’w gwisgo yn ystod y digwyddiad gyda’u bandiau arddwrn ILS FEST2022, ac roedd gennym datŵs, gliter, bredio gwallt a sbectol haul Coleg Gwent i bawb.

Anogwyd pob dysgwr i gymryd rhan yn y gweithgareddau chwaraeon traddodiadol, a rhoddwyd pwyntiau am gymryd rhan, yn ogystal â dod yn gyntaf, ail a thrydydd. Roedd yn hyfryd gweld ein dysgwyr yn gweiddi hwrê ar eu cyd-gystadleuwyr!

ILS FEST 2022 – a cross-campus celebration

Yn ogystal â’r gweithgareddau hwyliog a chystadleuol, daeth Reality Theatre i ILS FEST i gefnogi’r grŵp drama Parth Dysgu Torfaen yn perfformio’r ddawns ‘This is me’ i gymuned yr ILS, a oedd yn braf i’w weld ac fe wnaeth pawb fwynhau. Dywedodd Sally Sexton, tiwtor ILS:

“Roedd yn bleser pur gweld y dysgwyr yn cael cymaint o hwyl, yn rhyngweithio â’i gilydd a chyfarfod â ffrindiau. Roedd yn ddiwrnod gwerth chweil a does dim amheuaeth ei fod wedi cymryd llawer o amser ac ymdrech, ond roedd yn ddiwrnod gwych i bawb oedd yn cymryd rhan. Mae gan bob un ohonom ddysgwyr sy’n ei chael hi’n anodd mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, ond fe welais rai o’r dysgwyr hynny’n chwerthin ac yn ymuno ag eraill. Roedd yn gam mawr ymlaen i rai sydd erioed wedi cymryd rhan mewn diwrnod mabolgampau o’r blaen. Roedd mam un o fy nysgwyr wedi rhyfeddu at yr hyn gymrodd ei mab ran ynddo yn yr Ŵyl ILS. Roedd yn bleser pur gweld grŵp mor hapus a brwdfrydig o bobl!”

ILS FEST 2022 – a cross-campus celebration

Ar ddiwedd y diwrnod, coronwyd Parth Dysgu Torfaen yn enillwyr y Darian ILS am sgorio’r nifer uchaf o bwyntiau yn y chwaraeon a phêl-droed, a chodwyd £50 gan y dysgwyr i Ofal Hosbis Dewi Sant yn ystod y digwyddiad.

Cael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol nawr.

Hoffem ddiolch yn arbennig i’r canlynol am eu cymorth i gynnal Gŵyl ILS 2022: