2 Tachwedd 2021
Wnaethoch chi sylwi ar ein hadran wych Gwallt a Harddwch Campws Crosskeys ar BBC X Ray Ddydd Llun 1af o Dachwedd?
Yn ddiweddar mae ein hadran Gwallt a Harddwch Campws Crosskeys wedi croesawu rhai gwesteion arbennig o’r rhaglen deledu boblogaidd i ddefnyddwyr, BBC X Ray. Gydag adnoddau o safon y diwydiant a thiwtoriaid arbenigol yn y sector colur a harddwch, Coleg Gwent oedd y lle delfrydol i ffilmio pennod gyfan am y broblem gynyddol o golur ffug.
Drwy dreulio diwrnod cyfan ar y campws yn defnyddio ein stiwdios colur a gwallt fel lleoliad ffilmio, ymchwiliodd y gyflwynwraig Bethany i fyd y colur ffug, gan drafod sut y bu iddo ddod yn fater o gonsyrn eang yn y diwydiant harddwch. Nid yn unig mae colur ffug yn niweidio brandiau o radd uchel a’u henw da, ond mae hefyd yn berygl i gwsmeriaid a therapyddion harddwch fel ei gilydd, felly mae’n fater sydd angen i’n dysgwyr fod yn ymwybodol ohono.
Mae’r broblem ar gynnydd wrth i fwy o golur ffug (‘fake-up’) gael ei werthu ar lein, yn arbennig drwy gyfryngau cymdeithasol a thrwy farchnadoedd ar lein, ac mae hyn yn rhywbeth mae ein dysgwyr wedi dod ar ei draws yn ystod eu hastudiaethau hefyd. Felly, fe gymerodd BBC X Ray olwg agosach ar y pryderon cynyddol ynghylch colur ffug.
Fel rhan o’r bennod, cafwyd cyfweliad â rhai o’n myfyrwyr harddwch angerddol a Chydlynydd y Cwrs HND Colur Arbenigol (HND Specialist Makeup Course), Karen Coates, a’u holi ynghylch eu barn ar golur ffug. Buont yn trafod eu profiadau o ddod ar draws cynnyrch ffug wrth chwilio i brynu citiau harddwch ar gyfer addysgu a dysgu; hefyd cafwyd cyfweliad â’r gyn fyfyrwraig, Liz Orford gan y BBC.
Wedi cwblhau ei chwrs yng Ngholeg Gwent, aeth Liz ymlaen i sefydlu ei chwmni busnes harddwch llwyddiannus ei hun ac mae hi wedi profi sawl achos o beryglon colur ffug. Mae hi hyd yn oed wedi dod ar draws cynigion hyfforddi harddwch eilradd hefyd. Felly, mae Liz yn awr yn angerddol ynghylch rhannu ei phrofiadau gyda dysgwyr. Fe gred fod safon uchel yr hyfforddi yng Ngholeg Gwent yn allweddol i addysgu prydferthwyr y dyfodol i godi ymwybyddiaeth o golur ffug a’r risgiau y gall beri.
Er yr ymddengys y cynnyrch ffug yn fersiynau rhatach o frandiau gradd uchel wedi eu pecynnu i edrych yr un fath, maent yn aml yn gynnyrch atgynhyrchiol o ansawdd gwael wedi eu creu dan amodau aflan. Maent hefyd heb eu rheoleiddio o gwbl, felly gallant hyd yn oed gynnwys cynhwysion a allai fod yn niweidiol. Roedd rhai o’r straeon mwyaf difrifol a ddatgelwyd ar raglen y BBC X Ray yn cynnwys cynnyrch ag iddynt gynhwysion gwenwynig megis arsenig, cadmiwm a phlwm, yn arwain at adweithiau alergaidd, brechau a llosgiadau.
Tynnodd BBC X Ray ar farn arbenigol o’r diwydiant harddwch, ein tiwtoriaid a’n myfyrwyr, gan ddatgelu gwybodaeth fewnol i’n helpu i ddadlennu y peryglon ynghlwm a’r dulliau gorau o adnabod colur ffug i osgoi syrthio i’r fagl o’i brynu.
Gwyliwch diwtor Coleg Gwent – Karen a’n dysgwyr gwych ar BBC X Ray sydd nawr ar gael ar BBC iPlayer, ac os ydych am ganfod mwy am astudio yn ein hadran o safon y diwydiant Gwallt a Harddwch, cofrestrwch nawr ar gyfer ein digwyddiad agored nesaf.