10 Awst 2021
Unwaith eto eleni, rydym yn dathlu ein dysgwyr sydd ar y brig gyda chanlyniadau Safon Uwch, galwedigaethol a BTEC rhagorol. Rydym ni wedi gweld y canlyniadau gorau erioed gradd A* – C, gyda cynydd o 4.6% a nifer o ddysgwyr yn llwyddo i sicrhau lle ym Mhrifysgol Caergrawnt ym mis Medi!
Derbyniwyd 1,329 o ganlyniadau Safon Uwch yn electronig heddiw, gyda dros 80% o’r rhain yn ennill graddau A*-C. Rydym hefyd yn dathlu cyfradd lwyddo o 100% mewn 57 pwnc Safon Uwch – cynnydd trawiadol o 46 pwnc y llynedd.
Ar draws y coleg, derbyniodd o ddysgwyr BTEC a galwedigaethol Lefel 3 eu graddau heddiw hefyd, gyda chanlyniadau eithriadol. Rydym yn falch iawn o’r gwaith caled, y gwytnwch a’r ymroddiad y mae ein holl ddysgwyr wedi’i ddangos, er gwaethaf yr heriau a wynebir ers i’r pandemig ddechrau.
Dyma’r flwyddyn academaidd gyntaf i gyfleuster radd flaenaf Parth Dysgu Torfaen fod yn agored i ddysgwyr a chymerwyd 1025 Lefel A ac UG trawiadol. Cyflawnodd dysgwyr Lefel A gyfradd basio gyffredinol o 97.3% a chyflawnodd dysgwyr UG blwyddyn gyntaf gyfradd basio gyffredinol o 91%.
Yn y cyfamser, mae dysgwyr ym Mharth Ddysgu Blaenau Gwent wedi elwa ar arbenigedd addysgu eu tîm Safon Uwch a enillodd y wobr Efydd ar gyfer Tîm y Flwyddyn Pearson yn 2021, yn mwynhau cyfradd lwyddo gyffredinol eithriadol o 99.1%. Tra bod dysgwyr a staff ar Gampws Crosskeys hefyd yn dathlu gyda chyfradd lwyddo gyffredinol wych o 97.2%.
Dywedodd y Pennaeth, Guy Lacey:
Darganfyddwch rai o’n llwyddiannau ysbrydoledig o ddosbarth 2021:
Ar ôl gweithio’n eithriadol o galed, cyflawnodd y myfyriwr Safon Uwch Lyra Jannetta o Oakdale ganlyniadau anhygoel gyda phedair gradd A* mewn Ffiseg, Mathemateg, Mathemateg Bellach, Cemeg a Bagloriaeth Cymru, gan gadarnhau ei lle i astudio Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol anrhydeddus Caergrawnt.
Gydag angerdd dros bynciau STEM, mae Lyra yn gobeithio darganfod ei harbenigedd gwyddonol a dilyn PhD. Mae hi wedi bod yn teimlo’n gyffrous ac yn bryderus am ei chanlyniadau, gan ei bod wedi bod yn aros i ddarganfod a oedd hi’n bodloni amodau ei chynnig i astudio yng Nghaergrawnt, ac mae diwrnod y canlyniadau wedi bod yn llwyddiant ysgubol i Lyra!
Bydd Hussain Ahmed Khan o Gasnewydd hefyd yn ymuno â Lyra ym Mhrifysgol Caergrawnt ym mis Medi i astudio Peirianneg Awyrofod ar ôl cyflawni 3 A* mewn Mathemateg Safon Uwch, Cemeg a Ffiseg. Eglurodd;
Cyflawnodd dysgwyr BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol, Abigail George, Hollie Williams, Joel Chick, Tristan Lee, a Shalini Suansing y graddau uchaf – Rhagoriaeth a Theilyngdod – yn eu hastudiaethau galwedigaethol.
Canfu Abigail fod y cwrs BTEC yn “ddewis amgen gwych i Safon Uwch. Roedd yn seiliedig ar waith cwrs yn bennaf ac yn caniatáu i mi gael graddau da o hyd i fynd i brifysgol wych, heb orfod delio â phwysau a straen arholiadau.” Mae hi bellach yn edrych ymlaen at astudio Gwyddor Fiofeddygol ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi.
Yn y cyfamser, credai Joel, sy’n dyheu am fod yn Ffisiotherapydd, fod y BTEC yn “ddewis gwych os ydych chi’n chwilio am swydd sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, gan ei fod yn rhoi cymaint o ddewisiadau i chi ac rydych yn cael llawer o gefnogaeth gan diwtoriaid.” Mae Joel yn edrych ymlaen at astudio Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd Megan Grace o Oakdale yn dechrau ei gradd feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi ar ôl ennill 4 A*. Dywedodd;
Sicrhaodd Mason Hook o’r Coed Duon hefyd le yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerwysg gyda graddau A*A*A. Dywedodd wrthym;
Cwblhaodd Kris Day, sy’n ddysgwr hŷn, ei ddiploma Trwsio Beiciau Modur IMI er gwaethaf nifer o heriau yn ystod ei astudiaethau. Dywedodd:
Ar ôl astudio’r un safon Uwch ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, mae’r efeilliaid unwy, Sujana a Sujina Balendra o Beaufort, wedi profi llwyddiant dwbl ac wedi ennill dau le haeddiannol ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Gwyddor Fiofeddygol. Dywedodd Sujana;
Yn y cyfamser, canfu Sujina fod;
Cyflawnodd Gareth Burchell o Lynebwy A*A*A*A sylweddol, a sicrhaodd le i astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Eglurodd;
Mae’r dyfodol hefyd yn edrych yn ddisglair i Hannah Davies, dysgwr SEREN o Dredegar, a enillodd 3 gradd A* mewn Addysg Gorfforol, Bioleg a Seicoleg ac mae’n mynd ymlaen i astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Caerfaddon!
Gyda dewis eang o gyrsiau ym Maes Dysgu Blaenau Gwent, mae dysgwyr llwyddiannus yn mynd ymlaen i astudio ystod amrywiol o raddau yn y prifysgolion gorau ledled y DU. Mae Liam Williams o Dredegar yn paratoi i fynd i Brifysgol Lerpwl i astudio Pensaernïaeth gyda graddau Safon Uwch A*AC rhagorol.
Mae Hywel Evans, dysgwr Chwaraeon BTEC o Flaenau, yn gobeithio gweithio yn y diwydiant chwaraeon un diwrnod. Cyflawnodd Ragoriaeth a bydd yn mynd ymlaen i astudio Rheoli Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae Joe Nash o Lynebwy wedi gweithio’n galed i gyflawni AAB mewn Cymraeg, Sbaeneg a Bioleg ac mae bellach yn edrych ymlaen at ymgymryd â gradd mewn Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe.
Bydd Prifysgol Caerdydd hefyd yn croesawu Lucy Winstone, Meagan Pearsall a Zach Lloyd o Dredegar. Cyflawnodd Lucy A*AB a’i breuddwyd yw bod yn Gyfreithiwr neu’n Fargyfreithiwr, felly mae hi’n gyffrous i astudio’r Gyfraith ym mis Medi.
Mae Meagan yn gobeithio dod yn Feddyg, ac ar ôl ennill graddau A*AA gwych, mae hi wedi sicrhau lle ar gwrs Meddygaeth cystadleuol Prifysgol Caerdydd.
Ac mae Zach yn dilyn gradd mewn Cyfrifiadureg ac mae ganddo uchelgais o ddod yn rhaglenydd gyda graddau A*AA anhygoel.
Roedd y garfan gyntaf o Ddysgwyr UG ym Mherth Dysgu Torfaen yn cynnwys Ella Grundy, Emily Vale, Jessica Davies a Tegan Davies, sydd i gyd wedi cyflawni canlyniadau rhagorol er iddynt astudio blwyddyn gyntaf eu Safon Uwch yn ystod y pandemig.
Mae Ella yn cymryd camau tuag at wneud cais am Rydgrawnt y flwyddyn nesaf gyda phedair gradd A mewn Mathemateg, Bioleg, Cemeg a Daearyddiaeth, ac mae Emily hefyd yn anelu at astudio yng Nghaergrawnt, wedi cyflawni AAA mewn Mathemateg, Cemeg a Bioleg. Gan weithio tuag at fod yn awdur, mae Tegan wedi ennill AAAA yn ei Lefelau UG, gan ei rhoi mewn sefyllfa wych i wneud cais i Brifysgol Rhydychen i astudio Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg, ac eglurodd Jessica, a enillodd BBA mewn Bioleg, Seicoleg a Drama;
Llongyfarchiadau i ddosbarth 2021 sydd wedi rhagori er gwaethaf heriau pandemig byd-eang, a phob lwc ar gyfer y cam nesaf, beth bynnag fo hynny.
Gydag ystod o gyrsiau Addysg Uwch ar gael ar eich stepen ddrws, nid yw’n rhy hwyr i wneud cais nawr ar gyfer mis Medi i ymuno ag un o golegau gorau Cymru.