En
STEM students at Coleg Gwent

Ai pynciau STEM yw'r allwedd i'ch dyfodol?


4 Mai 2023

Yn ôl ymchwil diweddar, mae disgwyl i swyddi STEM gyfrif am 7.8% o’r holl swyddi yn y DU. Mae pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yn dod yn fwyfwy pwysig yn ein bywydau bob dydd ac yn ffurfio’r sylfeini ar gyfer Economi Cymru.

Gyrfaoedd mewn STEMbeth mae STEM yn ei olygu i mi?

Os ydych yn dewis pynciau STEM, mae eich rhagolygon gyrfa yn edrych yn addawol iawn! Bydd eich cyfleoedd gyrfa yn amrywiol gyda nifer o ddrysau ar agor i chi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd. Nid yn unig y mae galw cynyddol am sgiliau STEM ac maent yn hanfodol i’r economi, ond mae llawer o amrywiaeth hefyd:

Science, Technology, Engineering and Mathematics subjects

Gwyddoniaeth

Mae gwyddoniaeth o’n cwmpas ni bob dydd, o symudiad ceir i’r meddyginiaethau a gymerwn. Wrth i wyddoniaeth ddatblygu, gallai astudio yn Coleg Gwent arwain at yrfa mewn Gwyddor Fforensig, Gwyddor Fiofeddygol, Meddygaeth, Peirianneg Roboteg, Microbioleg, Deallusrwydd Artiffisial, neu Amgylcheddaeth. Astudiodd Martyna Nawrocka Safon Uwch mewn Mathemateg, Bioleg ac Addysg Gorfforol ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent ac eglurodd “er mwyn dilyn gyrfa ym maes gwyddoniaeth, roedd rhaid i mi astudio pynciau STEM ar lefel Safon Uwch. Dewisais astudio Bioleg, Mathemateg ac Addysg Gorfforol oherwydd bod pob un yn fy rhyfeddu yn yr ysgol a chanfûm y pynciau yn ymestynnol, difyr a chymhleth.”

Adeiladu

Adeiladwch yrfa yn y byd adeiladu; diwydiant y mae disgwyl iddo dyfu’n gyflymach yng Nghymru nac yng ngweddill y DU! O’r cartrefi rydym yn byw ynddynt i’r ffyrdd rydym yn gyrru arnynt, mae sawl llwybr ar gael gyda chyrsiau adeiladu Coleg Gwent – gallech ddod yn Osodwr Brics, Plymiwr, Peintiwr/Addurnwr, Plastrwr, Saer, Peiriannydd Sifil, Pensaer, neu Drydanwr.

Peirianneg

Mae peirianwyr yn hanfodol i fywyd bob dydd, o’r ffonau rydym yn eu defnyddio i’r awyrennau rydym yn teithio ynddynt. Mae’r gofyn am beirianwyr yn uchel, yn enwedig peirianwyr benywaidd, felly mae swyddi ar gael bob amser. Dyfeisiwch eich dyfodol gyda chwrs peirianneg yn Coleg Gwent, drwy ddewis o Fecanyddol, Trydanol, Awyrofod, Amddiffyn, Morol, Modurol, Saernïo a Weldio.

Cyfrifiadura a Thechnoleg

Mae technoleg yn eistedd wrth galon busnesau a bywyd bob dydd. Bydd Cymru angen 11,000 o bobl yn gweithio ym maes TG erbyn 2022. Felly, drwy astudio cyrsiau Cyfrifiadura a Thechnoleg Coleg Gwent, gallech ddod yn Ddatblygwr Meddalwedd, Dylunydd Gwe, Cynorthwyydd Desg Gymorth, neu Asiant Telegyfathrebu yn unrhyw sector, o Ofal Iechyd i Fusnes. Astudiodd Tristan Baker Gyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol ar Gampws Crosskeys oherwydd “ei fod yn rhoi llawer o opsiynau i mi ar ôl gorffen y cwrs. Fy nodau ar ôl coleg yw mynd i’r brifysgol neu’n syth i waith. Bydd Coleg yn fy helpu i gyflawni hyn drwy roi’r sgiliau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnaf.”

Mathemateg

Arian sy’n datod pob clo. Felly, os ydych yn dda gyda rhifau, dyma’r sector i chi, o bosib, gyda rhai o’r cyflogau uchaf ar gael. Gallai cymwysterau Coleg Gwent mewn Mathemateg arwain at yrfa lwyddiannus mewn Busnes, Economeg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Cyfrifeg, Cyllid, ac Yswiriant.

STEM students at Coleg Gwent

Rhesymau dros ddewis STEM

  • Rhagolygon cyflogaeth da – mae STEM yn faes sy’n tyfu. Mae mwy a mwy o swyddi sy’n gofyn am sgiliau mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, ond rydym hefyd yn gweld prinder sgiliau yn y meysydd hyn. Golyga hyn os byddwch yn astudio STEM, bydd galw mawr amdanoch.
  • Dod â diwydiant ac addysg ynghyd – Gyda chyflogwyr yn ceisio llenwi bylchau sgiliau ym meysydd STEM, maent yn gweithio’n agosach â darparwyr addysg lleol fel Coleg Gwent i adeiladu’r cwricwlwm o amgylch eu gofynion. Felly, byddwch yn gadael coleg gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol.
  • Hyblygrwydd yn eich gyrfa – mae pynciau STEM yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr i chi. Byddwch yn dysgu sut i feddwl yn feirniadol, datrys problemau a meddwl yn ochrol, gwybodaeth am gyfrifiaduron a thechnoleg, a sgiliau cyfathrebu a chyflwyno – pob un yn allweddol ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn unrhyw faes!
  • Llwybrau Safon Uwch a galwedigaethol – P’un a ydych eisiau mynd i’r brifysgol, cwblhau prentisiaeth i ennill wrth ddysgu, neu ddod yn entrepreneur gyda’ch busnes eich hun, mae pynciau STEM yn agor drysau i chi gyflawni eich nodau. Mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd!
  • Gwneud gwahaniaeth – mae rolau STEM yn effeithio ar ein bywydau bob dydd mewn sawl ffordd, gan olygu y gallwch deimlo fel eich bod wir yn gwneud gwahaniaeth mewn cymdeithas. O fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd i ymchwilio i driniaethau a dulliau o wella newydd sy’n achub bywyd, bydd STEM yn eich galluogi i wneud hynny.
  • Allwedd i’r dyfodol – Mae STEM yn cyffwrdd â bywydau pawb ohonom: Caiff ein bwyd ei gynhyrchu drwy addasu genetig; mae ceir trydan yn dod yn fwy poblogaidd; mae adeiladau yn cael eu dylunio i wrthsefyll daeargrynfeydd; mae brechlynnau newydd yn cael eu datblygu; ac rydym yn gweithio gyda thechnoleg bob dydd. Mae datblygiadau newydd yn cael eu datblygu o hyd, a heb STEM, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl.

Mae STEM i bawb

Female STEM students at Coleg Gwent

Mae pynciau STEM yn opsiwn gwych ar gyfer dysgwyr ifanc ac aeddfed yn Coleg Gwent. Dim ond 24% o’r gweithlu STEM sy’n ferched yn y DU; fodd bynnag, mae nifer y merched sy’n cyflawni pynciau a rolau STEM wedi cynyddu. Yn 2019, bu i ni gyrraedd ffigwr arwyddocaol o un filiwn o ferched mewn galwedigaethau STEM craidd. Felly, er bod pynciau STEM yn hanesyddol wedi cael eu dominyddu gan ddynion, gyda bechgyn yn cyfrif am 90% o brentisiaethau yn y pynciau hyn yng Nghymru, bellach mae hyn yn newid, ac mae merched ledled Cymru erbyn hyn yn perfformio’n well na bechgyn mewn pynciau STEM ar lefel TGAU.

Mynychodd Jade Parry Gampws Crosskeys i astudio Peirianneg Drydanol. Roedd erioed wedi bod â diddordeb mewn gwyddoniaeth a ffiseg yn yr ysgol, gyda dyheadau o weithio fel peiriannydd awyrenegol neu beiriannydd trydanol. Roedd “yn poeni am fod yr unig ferch yn y grŵp a gwneud ffrindiau”, ond nid hi oedd yr unig ferch ar y cwrs a chyd-dynnodd yn dda â’r grŵp cyfan.

Mae STEM yn dechrau yn Coleg Gwent

Gyda chymaint o gyfleoedd cyffrous i ddilyn a chyflawni gyrfa lwyddiannus mewn STEM, mae eich taith yn dechrau yn Coleg Gwent. Gyda chyfraddau llwyddo yn uwch na chyfartaledd Cymru a’r cyfartaledd cenedlaethol dros y pum mlynedd diwethaf, cyfleusterau o safon y diwydiant, tiwtoriaid arbenigol, ac ystod o gymorth academaidd a bugeiliol i’ch helpu i gyflawni eich potensial, mae gyrfa mewn STEM o fewn eich cyrraedd. Darganfyddwch ystod eang o gyrsiau STEM Coleg Gwent yn y digwyddiad agored nesaf.