17 Rhagfyr 2020
Mae’r diwydiannau creadigol yn tyfu bum gwaith yn gynt na sectorau eraill ym Mhrydain (www.thecreativeindustries.co.uk), ac yn cyfrannu dros £111 biliwn i economi’r DU bob blwyddyn. Mae hynny’n fwy nag Awyrofod, Modurol, Olew, Nwy, a Gwyddorau Bywyd gyda’i gilydd! (www.creativeindustriesfederation.com)
Mae amrywiaeth o ffyrdd a llwybrau gyrfaol gwahanol i unigolion creadigol eu harchwilio, ac yn Coleg Gwent, gallwch lunio eich ffordd i’r sector creadigol gyda chyrsiau mewn Celf a Dylunio, Ffasiwn a Thecstilau, E-Chwaraeon, Darlunio, Ffotograffiaeth, Cynhyrchu’r Cyfryngau, Cerdd a mwy.
Ond gyda chymaint o swyddi gwahanol ar draws y diwydiannau creadigol yn y DU, efallai y byddai’n syndod clywed mai dim ond 3-14% o unigolion sy’n gweithio yn y sectorau hyn sy’n dod o gefndiroedd cymunedau lleiafrifoedd ethnig (www.statista.com), ac fel coleg sy’n gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, rydym yn gobeithio newid hyn.
Tynnodd y sector Ffotograffiaeth ein sylw gyda 4% o’r gweithlu yn unig yn cael ei gynrychioli gan unigolion lleiafrifoedd ethnigyn y DU (www.statista.com), ond gyda chyrsiau Ffotograffiaeth poblogaidd a llwyddiannus yn Coleg Gwent, gwelsom hyn yn gyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Felly, penderfynasom gymryd rhan mewn prosiect arloesol newydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerdydd a Rumourless Cities – sefydliad sy’n ceisio cael gwared â mythau a newid agweddau sy’n bodoli am grwpiau lleiafrifol o fewn ein cymunedau.
Ar ôl darllen adroddiadau am y gynrychiolaeth annigonol sylweddol o weithwyr creadigol cymunedau lleiafrifoedd ethnig ledled y DU, cafodd Yusuf Hussein, Gweithiwr Ieuenctid a Ffotograffydd brwdfrydig, ei ysbrydoli a chreu gweledigaeth drwy fynd i’r afael â’r broblem hon, fel gweithiwr creadigol du.
Sylweddolodd bod gan y genhedlaeth ifanc ddylanwad gwych ar eu cymunedau, a’r gallu i newid ffordd o feddwl a safbwyntiau ynghylch diwylliant, amrywiaeth a chynhwysiant. Felly, datblygodd y cysyniad o weithdai wyneb-yn-wyneb ar gyfer myfyrwyr cymunedau lleiafrifoedd ethnig rhwng 14-18 oed, sy’n pontio o TGAU i Addysg Bellach, gyda’r nod o greu cymaint o hygyrchedd a chefnogaeth â phosib i fyfyrwyr nad oes ganddynt fynediad rhwydd at y celfyddydau creadigol.
Y rhesymeg y tu ôl i’r prosiect yw darparu sgiliau a phrofiad o’r sector creadigol, a maes cyflogaeth i’r unigolion na fyddai’n credu ei fod yn hygyrch fel arall. Eglurodd Maria Retter, Pennaeth Ysgol Celfyddydau Creadigol Coleg Gwent, “rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd i ymgysylltu pob maes o’r gymuned gyda phopeth creadigol. Ni ddylai unrhyw un feddwl nad yw gyrfa greadigol yn opsiwn, ac rydym yn gobeithio agor meddyliau i syniadau a phosibiliadau creadigol mewn addysg.”
Bydd y prosiect yn darparu pum sesiwn ffotograffiaeth ar y penwythnos i bobl ifanc o’r cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd, ac o’i chwmpas. Bydd y gweithdai wedi’u lleoli ym Mae Caerdydd, yn adeilad eiconig Canolfan y Mileniwm, gyda mynediad at y cyfleuster ac offer gwych yno.
Dywedodd Gemma Hicks, Cynhyrchydd Ymgysylltu Cymunedol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru:
“Rwy’n falch iawn fod Coleg Gwent a Rumourless Cities wedi gofyn i ni fod yn bartner ar gyfer y prosiect hwn. Mae peth sylweddol o waith yn canolbwyntio ar adeiladu gweithle ar gyfer y diwydiannau Creadigol yn y dyfodol, ac mae gennyf ddiddordeb mewn sicrhau bod gweithlu’r celfyddydau yn y dyfodol yn cynrychioli’r gymuned rydym ynddi, yn ogystal â sicrhau bod cymunedau amrywiol eraill, sydd wedi cael cynrychiolaeth annigonol, yn cael profi, dysgu a datblygu mewn lleoliadau celfyddydol a sefydliadau addysg.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi’i lleoli yn Butetown, ac rydym yn falch iawn o fod wedi ein lleoli yma. Pan ofynnwyd i ni gefnogi pobl ifanc o gymunedau Du, Asiaidd ac amrywiol o ran ethnigrwydd i gymryd rhan mewn ffotograffiaeth, roeddem eisiau eu galluogi nhw i adeiladu cysylltiad gyda ni, a chael cyfle i arddangos eu gwaith. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut fydd y prosiect yn datblygu, ac i gefnogi Coleg Gwent a Rumourless Cities i archwilio sut allwn ni barhau i greu cyfleoedd cyffelyb i bobl ifanc.”
Bydd Peter Britton a Rebecca Toner, Tiwtoriaid Ffotograffiaeth Coleg Gwent, yn darparu tri o’r gweithdai (dydd Sadwrn 12 Rhagfyr, dydd Sadwrn 30 Ionawr, dydd Sadwrn 6 Mawrth) gyda grŵp o 12 o gynrychiolwyr cymunedau lleiafrifoedd ethnig, 12 oed a hŷn. Rydym yn edrych ar dri gweithdy cychwynnol, gydag un cyn y Nadolig, a dau yn y flwyddyn newydd. Bydd y sesiynau yn cynnwys cymorth academaidd strwythurol, fydd yn arwain at gymhwyster,troi ystadegau negyddol cynrychiolaeth BAME yn brofiad cadarnhaol i’r bobl ifanc hyn, ac agor y drysau i’r sector creadigol.
Rydym yn gobeithio arddangos gwaith y bobl ifanc yn yr Amgueddfa Stori ar ddiwedd y prosiect hwn, i godi proffil cynrychiolaeth cymunedau lleiafrifoedd ethnig o fewn y celfyddydau, ac archwilio’r posibilrwydd i’r peilot barhau ar gyfer mwy o bobl ifanc yn Ne Cymru.
Mae croeso i bawb yn Coleg Gwent, ac mae ein cyrsiau’n agored i bawb. Felly, os oes gennych chi ddiddordeb mewn Ffotograffiaeth neu’r diwydiannau creadigol, dysgwch fwy am ein hystod o gyrsiau hyblyg ac ymgeisiwch nawr.