2 Rhagfyr 2020
Gyda champws newydd Parth Dysgu Torfaen ar fin agor, mae staff yn brysur yn gwneud cynlluniau ar gyfer symud o gampws Pont-y-pŵl ym mis Ionawr. Gan wybod y bydd hen offer gwyddoniaeth yn cael ei adael ar ôl pan fyddwn yn symud i’r Parth Dysgu o’r radd flaenaf, penderfynodd Rachel Gruber, Technegydd yn ein Hysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, chwilio am gartref newydd ar gyfer ein hen offer i roi bywyd newydd iddo.
Ar ôl clywed bod Ysgol Greenfields yng Nghasnewydd yn chwilio am offer i roi hwb da i’w BTEC newydd mewn Gwyddorau Cymhwysol, cysylltodd Rachel â’r ysgol i weld a allent wneud defnydd da o’n hen offer gwyddoniaeth, a derbyniwyd y rhodd yn ddiolchgar. Yn amrywio o ficrosgopau a jygiau mesur, i sleidiau a thiwbiau prawf, estynnodd Pennaeth Ysgol Greenfields, Jennifer Parry, ddiolch cynnes i Coleg Gwent ar ôl derbyn y rhodd o’n campws Pont-y-pŵl. Roedd hi wrth ei bodd yn casglu’r offer a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddatblygiad eu dysgwyr mewn gwyddoniaeth, ac roedd hi’n hapus i weithio mewn partneriaeth â ni er budd pobl ifanc yn ein cymuned leol.
Mae Ysgol Greenfields yn ysgol annibynnol sydd wedi ymroi i gefnogi dysgwyr sydd â hanes o gael eu gwahardd o’r ysgol; mewn perygl, yn agored i niwed ac yn profi anawsterau emosiynol ac ymddygiadol; neu ddysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol. Mae’r ffactorau hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i bobl ifanc ddysgu ochr yn ochr â grwpiau cyfoedion mwy, felly mae addysg yn Greenfields wedi’i theilwra i bob unigolyn gydag elfennau ymarferol yn gysylltiedig â phob pwnc. Drwy broses o greu gofod dysgu diogel, meithrin perthynas effeithiol rhwng athrawon a disgyblion a nodi anghenion dysgu unigol, nod yr ysgol yw paratoi ei dysgwyr ar gyfer eu dyfodol drwy roi cyfleoedd iddynt ennill cymwysterau a chymryd rhan mewn lleoliadau gwaith a choleg.
Bydd derbyn ein rhodd o offer gwyddoniaeth yn gwella’r gweithgareddau a’r cymwysterau gwyddoniaeth y gall Ysgol Greenfields eu cynnig yn sylweddol, a bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ymgysylltiad â dysgwyr. Maent wedi bod yn gobeithio cynnig BTEC i ddysgwyr mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, felly bydd y rhodd hon yn gwneud cyflwyno’r BTEC yn llawer haws ac yn rhoi ein hen offer at ddefnydd da ar yr un pryd.
Bu Patrick Seale, Pennaeth Ysgol Parth Dysgu Torfaen, yn goruchwylio’r rhodd ac roedd yn falch o weld ein hoffer yn cael eu hail-bwrpasu. Ethos ein Parth Dysgu newydd yn Nhorfaen yw gweithio gydag ysgolion partner ym mwrdeistref Torfaen a thu hwnt mewn ardaloedd fel Casnewydd, i wella’r cyfleoedd a’r canlyniadau i bobl ifanc. Rydym yn falch bod ein datblygiad o’r cyfleuster newydd hwn wedi ein galluogi i roi offer gwyddoniaeth da er budd dysgwyr ac athrawon yn Ysgol Greenfields. Bydd yn helpu i ddatblygu gwersi a chwricwlwm STEM yno, a gobeithiwn y bydd rhai o’r dysgwyr yn dod o hyd i werthfawrogiad o wyddoniaeth ac yn symud ymlaen at Barth Dysgu Torfaen i barhau â’u hastudiaethau.
Darganfyddwch fwy am Barth Dysgu Torfaen a’r ystod eang o gyrsiau sydd ar agor ar gyfer ceisiadau nawr.