En

Diwrnodau Canlyniadau - Beth sydd angen i chi ei wybod

Canlyniadau Arholiadau 2024

Dymunwn bob lwc i chi!

Canlyniadau Lefel A, Lefel AS a Lefel 3

Mae canlyniadau Lefel AS/Lefel A, Bagloriaeth Cymru, Lefel 3 BTEC, UAL, Rock School a NCFE yn gyfyngedig, a byddant ar gael trwy’r Tab Canlyniadau Arholiadau yn eich Porth CG o 8.00yb ddydd Iau 15 Awst. Byddwn hefyd yn anfon eich canlyniadau Lefel A i’ch cyfeiriad e-bost coleg, neu gallwch gasglu copi printiedig o’ch campws ar ddiwrnod canlyniadau (nodwch na fydd Campws Brynbuga ar agor).

I gael cyfarwyddiadau ar sut i gael mynediad i’ch Porth CG, darllenwch yr adran ‘Sut i gael mynediad i’ch canlyniadau’ isod.

Canlyniadau TGAU a Lefel 2

Mae canlyniadau TGAU, Lefel 2 BTEC, a Gofal Iechyd a Gofal Plant WJEC/City and Guilds (Lefel 2 a Lefel 3) yn gyfyngedig a byddant ar gael trwy’r Tab Canlyniadau Arholiadau yn eich Porth CG o 8.00yb ddydd Iau 22 Awst.

Canlyniadau galwedigaethol eraill

Nid oes gan rai cyrff dyfarnu fel City and Guilds, Lefel 1 BTEC ac EAL ddyddiad penodol ar gyfer canlyniadau. Cyn gynted ag y byddwn yn derbyn y canlyniadau, byddant ar gael trwy’r Tab Canlyniadau Arholiadau yn eich Porth CG.

Cwestiynau Cyffredin

Sut i gael mynediad i’ch canlyniadau

Bydd eich canlyniadau yn cael eu dangos yn eich Porth CG y gallwch gael mynediad iddo trwy enrolment.coleggwent.ac.uk.

I fewngofnodi i’ch porth CG:

  • Dewiswch wedi cofrestru eisoes (neu mewngofnodi e-bost personol ar ffôn symudol)
  • Rhowch eich e-bost personol a’ch cyfrinair
  • Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ailosod trwy nodi eich cyfeiriad e-bost personol, gwasgu go ac yna dewis yr opsiwn cyfrinair anghofiedig.
  • Yn y ddewislen ar ochr chwith y sgrin, dewiswch Canlyniadau Arholiadau

Byddwch yn gweld tabl sy’n dangos y wybodaeth ganlynol:

  • Corff dyfarnu – hwn yw’r corff dyfarnu a fydd yn rhoi eich cymhwyster. Er enghraifft, WJEC, BTEC neu City and Guilds.
  • Digwyddiad bwrdd – mae hyn yn dangos yr amser y buoch yn astudio gyda ni. Er enghraifft, 23/24 (Medi 2023 i Fehefin 2024) ar gyfer Lefelau A 6A24 (cyfres arholiadau haf 2024).
  • Cod arholiad – hwn yw’r papur arholiad neu’r cyfeirnod cymhwyster.
  • Disgrifiad – hwn yw enw’r papur arholiad neu enw’r cymhwyster.
  • Gradd – mae hyn yn dangos naill ai’r marc ar gyfer y papur unigol neu’ch gradd cymhwyster gyffredinol.
  • Dyddiad ardystio
  • Tystysgrif wedi’i phostio – hwn yw’r dyddiad y postiwyd eich tystysgrif. Os yw hwn yn wag, nid ydym wedi postio’r dystysgrif eto.

Ni allaf gael mynediad i’r Porth CG gan ei fod yn rhedeg yn araf

Bydd llawer o bobl yn mewngofnodi i’r Porth CG ar yr un pryd ar ddiwrnod canlyniadau, felly byddwch yn amyneddgar. O 8yb byddwn hefyd yn anfon canlyniadau i’ch cyfrif e-bost coleg, neu gallwch gasglu copi printiedig o’ch campws os yw’n well gennych.

Nid wyf yn y DU ar ddiwrnod canlyniadau

Os ydych chi eisiau cael mynediad i’ch canlyniadau trwy’r Porth CG, nid yw’n broblem gwneud hyn o du allan i’r DU. Fodd bynnag, mae mesurau diogelwch ar waith sy’n golygu os ydych chi eisiau mewngofnodi i’ch cyfrif e-bost Coleg Gwent, bydd angen i chi roi gwybod i ni. Llenwch y ffurflen ar ein desg gymorth TG i alluogi mynediad rhyngwladol i’ch cyfrif e-bost.

Beth yw ystyr CASH-IN yn y disgrifiad?

Defnyddir y gair ‘CASH-IN’ gan WJEC ar gyfer pynciau Lefel A i ddisgrifio’r radd gyffredinol. Os ydych chi’n disgwyl gradd derfynol ar gyfer Lefel AS neu Lefel A2 edrychwch am ‘CASH-IN’ yn y teitl.

Mae gen i farc ebychnod ! yn lle gradd

Nid yw canlyniadau ar gael tan 8yb ar eich diwrnod canlyniadau. Bydd yn dangos marc ebychnod tan y bydd y corff dyfarnu wedi rhyddhau’r canlyniadau.

Mae rhai o fy nghanlyniadau ar goll

Cysylltwch â thîm arholiadau Coleg Gwent os oes unrhyw rai o’ch canlyniadau ar goll ar ôl 8yb ar eich diwrnod canlyniadau.

Nid wyf wedi cael y canlyniadau yr oeddwn eu heisiau

Beth bynnag sy’n digwydd ar ddiwrnod canlyniadau rydym yma i chi a gallwn eich helpu i ddod o hyd i’ch cam nesaf. Gall ein tîm cymorth helpu gyda:

  • Cyngor cyffredinol ar eich canlyniadau
  • Cymorth personol
  • Newid eich cwrs
  • Dilyniant a’ch camau nesaf

Rwyf am ymholi am fy nghanlyniadau

Os hoffech ymholi am eich canlyniadau gyda’r corff dyfarnu neu ofyn am gopi o’ch sgript arholiad cysylltwch â’ch tiwtor cwrs neu Bennaeth Ysgol a fydd â’r wybodaeth berthnasol i’ch helpu. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am y broses apeliadau yn ein polisïau ar CG Connect.

Pryd y byddaf yn cael fy nhystysgrif?

Byddwn yn postio eich tystysgrif i’r cyfeiriad sydd gennym ar eich cofnodion. Gallwch wirio hyn yn y Porth CG. Byddwn yn ychwanegu dyddiad at y tabl canlyniadau yn y Porth CG pan fyddwn wedi postio eich tystysgrif. Os yw hwn yn wag, nid ydym wedi postio’ch tystysgrif eto. Unwaith y byddwch wedi derbyn eich Tystysgrif, cadwch hi mewn lle diogel, mae copïau yn ddrud.