
Gwobrau Staff Dathlu Rhagoriaeth Coleg Gwent
Yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwych i’w fyfyrwyr, mae Coleg Gwent hefyd yn gwneud hynny i’w staff. Rydym yn sefydliad cynhwysol ac amrywiol, ac mae gweithio gyda ni’n brofiad boddhaus, cyffrous a difyr, gan eich bod yn helpu i lywio dyfodol pobl ifanc.
Fel aelod o’n staff gwerthfawr, byddech yn mwynhau popeth sydd gan Coleg Gwent i’w gynnig:
Rydym wedi ymrwymo i gynnal cymuned barchus, lle gall bawb ddysgu, gweithio, datblygu a thyfu mewn lleoliad urddasol a diogel. Mae Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn flaenoriaeth yn Coleg Gwent, ac rydym yn cydnabod yr angen am gamau gweithredu cadarnhaol, er mwyn sicrhau bod:
Rydym wedi ymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol – mewn geiriau eraill, rhoi cyfle i bob unigolyn gyflawni hyd at eithaf ei allu – ac rydym yn mynd ati’n weithredol i geisio amrywio ein gweithlu.
Rydym wedi ymrwymo i herio’r gwahaniaethu y mae rhai grwpiau o gymdeithas yn ei brofi, beth bynnag yw ei ffurf, gan wneud yn siŵr bod cydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym wedi datblygu arferion cynhwysol ym mhob maes er mwyn sicrhau bod pob grŵp ac unigolyn yn gallu gweithio a dysgu mewn amgylchedd sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ac aflonyddu ar sail rhywedd, hil, ethnigrwydd, lliw, cenedligrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, oed, statws priodasol, cyfrifoldeb teuluol, gweithgareddau undeb llafur, cred grefyddol neu wleidyddol.
Rydym yn hyrwyddo diwylliant sy’n gwerthfawrogi cyfleoedd cyfartal ac amrywiol drwy raglen o ddigwyddiadau dynamig, heriol a chraff drwy gydol y flwyddyn. Bydd y digwyddiadau hyn yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ac yn uno myfyrwyr a staff i ddysgu, cymdeithasu ac atgyfnerthu ein cysylltiadau cymunedol. Gyda’n gilydd, rydym yn anelu at fod yn gymuned oddefgar lle mae pawb yn dathlu’r gwahaniaethau rhwng unigolion a’r buddion mae hynny’n ei gynnig i’r coleg.
Dysgwch fwy am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein coleg.
Mae ein swyddi gwag ar hyn o bryd yn cynnwys Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Chanllaw ar Geisiadau Datgelu.
I wneud cais ar-lein, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’r holl adrannau a defnyddiwch hwy i ddarparu gwybodaeth i ni am sut mae eich sgiliau, gwybodaeth, profiad ac agwedd yn cyd-fynd â manyleb person y swydd. Yna cliciwch ‘Cyflwyno cais’ i gwblhau’r broses.
Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost neu dros y ffôn. O ganlyniad i’r lefel o geisiadau a dderbyniwn, fel rhan o’n polisi ni fyddwn yn rhoi gwybod i chi os na fuoch yn llwyddiannus yn y broses llunio rhestr fer. Bydd ein tîm AD yn barod i helpu gydag unrhyw ymholiadau, neu gyda chwblhau eich ffurflen gais. Gellir cysylltu â nhw ar vacancies@coleggwent.ac.uk
Rydym yn cymryd diogelu data personol o ddifrif, felly bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych ar eich ffurflen gais yn cael ei defnyddio i brosesu eich cais o dan sail gyfreithiol cyflawni contract â chi. Ni chedwir ceisiadau aflwyddiannus am fwy na chwe mis. Mae’n bosibl y cedwir ceisiadau llwyddiannus am gyfnod hirach. Dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych ychydig o hawliau i’r data yr ydym yn ei brosesu amdanoch.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein hysbysiad preifatrwydd llawn.
Mae gennym bum campws yn ne-ddwyrain Cymru yn Crosskeys, Casnewydd, Cwmbrân, Brynbuga a Glyn Ebwy. Cliciwch ar y ddolen i weld union leoliad y swydd wag.