![Support staff on yellow background](https://b2822998.smushcdn.com/2822998/wp-content/uploads/2022/01/Coleg-Gwent-Support.jpg?lossy=0&strip=1&webp=1)
Ein darpariaeth cymorth cyffredinol
Rydym yma i helpu pawb i ddysgu a chyrraedd eu potensial llawn yn Coleg Gwent. Felly, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth cyffredinol i bob dysgwr.
Mae hyn yn debygol o ddiwallu anghenion y mwyafrif helaeth o’n dysgwyr, yn cynnwys rhai ag ystod o gyflyrau cyffredinol, penodol a/neu niwro-amrywiol a rhai sydd angen cymorth bugeiliol. Ond os oes gennych Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae cefnogaeth bellach ar gael hefyd.
![ulp-alp Tutor helping ILS student](https://b2822998.smushcdn.com/2822998/wp-content/uploads/2024/11/ulp-alp.jpg?lossy=0&strip=1&webp=1)
Arlwy’r ddarpariaeth ddysgu
Canllawiau cymorth dysgu cyffredinol ac ychwanegol
Mae gan bob dysgwr fynediad at:
Tiwtorial wythnosol gyda’ch tiwtor personol
Fel myfyriwr llawn amser byddwch yn cael eich Tiwtor Personol eich hun a fydd yn cyfarfod â chi i adolygu eich datblygiad academaidd, darparu cymorth, cynnig arweiniad ac anogaeth i sicrhau eich bod yn cwblhau holl agweddau eich cwrs yn llwyddiannus. Yn ogystal â gofalu am eich iechyd a’ch llesiant cyffredinol a bod yn rhywun gallwch ymddiried a dibynnu arnynt, byddant hefyd yn eich paratoi ar gyfer eich camau nesaf yn y coleg, y brifysgol neu gyflogaeth.
Llyfrgelloedd
Gall pob myfyriwr yn Coleg Gwent ddefnyddio ein llyfrgelloedd. Ym mhob canolfan mae yna lyfrau, cyfnodolion, e-lyfrau a DVDs, a gallwch ddefnyddio’r cyfrifiaduron neu gysylltu eich dyfais eich hun â’n Wi-Fi am ddim. Mae’r staff wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau a chael gafael ar wasanaethau eraill megis llungopïo, lamineiddio a rhwymo, ac mae arbenigwyr ar gael i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh yn ogystal â’ch sgiliau astudio, gan gynnwys deall aseiniadau, chwilio am wybodaeth a chwrdd â therfynau amser.
Meddalwedd hygyrchedd
Mae gan bob cyfrifiadur myfyrwyr feddalwedd hygyrchedd, yn cynnwys:
- Vu-Bar – bar ar y sgrin sy’n ddefnyddiol i ddysgwyr dyslecsig sy’n neidio dros linellau neu’n cwympo o un llinell i’r llall wrth ddarllen.
- Thunder Screenreader – yn helpu dysgwyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall i ddefnyddio cyfrifiadur lle mae’r dangosydd yn cael ei optimeiddio ar gyfer hygyrchedd hawdd.
- ssOverlay – troshaen lliw ar gyfer y sgrin lle gellir addasu’r lefelau lliw a thryloywder i weddu i’r dysgwr.
- Balabolka – rhaglen Testun i Leferydd lle gallwch chi gopïo a gludo testun i mewn i Balabolka a bydd y rhaglen yn darllen y testun yn ôl i chi.
- Microsoft Immersive Reader – technoleg gynorthwyol Testun i Leferydd, ar gael yn Word, Teams ac One Note, ac ar gael yn PowerPoint yn fuan.
- Apiau EdTech megis Canvas a Wakelet – edrychwch am yr eicon Immersive Reader.
- Gallwch gael mynediad at e-lyfrau technoleg gynorthwyol drwy’r Porth Dysgwr – dangosfyrddau ‘Sut I’ a ‘Gwybodaeth’. Mae gan yr e-lyfrau swyddogaeth ‘Darllenwch i mi’.
Trefniadau mynediad ar gyfer arholiadau
Efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol yn ystod arholiadau – dywedwch wrth eich Tiwtor Personol os ydych wedi cael trefniadau mynediad ar gyfer arholiad o’r blaen (er nad yw trefniadau a ddyfernir yn yr ysgol yn cael eu rhoi yn awtomatig yn y coleg).
Gallai trefniadau mynediad fod yn amser ychwanegol, ystafell ar wahân, mynediad at ddarllenydd, ysgogwr, ysgrifennydd, defnyddio cyfrifiadur, neu gyfuniad o’r rhain neu argymhellion eraill.
Ardaloedd tawel
I ddysgwyr sydd â materion gorsensitifrwydd, sy’n dioddef o orbryder neu’n ei chael yn anghyfforddus i ddefnyddio cyfleusterau ffreutur prysur, mae gan bob campws ardal dawel i’w defnyddio amser egwyl ac amser cinio.
Gofalwyr ifanc
Rydym yn deall pa mor anodd y gall fod i gael cydbwysedd rhwng eich addysg a gofalu am rywun. Os ydych chi’n ofalwr ifanc, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi gwybod i ni am fod gennym ni lawer o gymorth ar gael yn y Coleg. Byddwn ni’n gwrando ar eich anghenion penodol ac yn cymryd hyn i ystyriaeth o ran hwyrni, galwadau ffôn, estyniadau ar gyfer eich gwaith ac amser allan os ydych chi’n teimlo’n orbryderus neu’n ypset.