Cynllun Cerdyn Bws Coleg Gwent
Gall teithio i’r coleg fod yn fforddiadwy! Gyda Chynllun Cerdyn Bws Coleg Gwent, mae posib i chi dderbyn gostyngiad ar eich taith bws i, ac o’r coleg. Mae dysgwyr sydd yn meddu ar Fy Ngherdyn Teithio hefyd yn cael gostyngiad o 1/3 ar gost bysiau yn ystod nosweithiau, penwythnosau a gwyliau ysgol. Mae’n rhaid i chi gael Fy Ngherdyn Teithio er mwyn i’ch cerdyn fod yn ddilys (gweler isod).
Mae ymuno â’r cynllun yn hawdd, yn dibynnu ar ble rydych yn byw:
Rhwng 16 a 18 oed ac yn byw yng Nghasnewydd, Torfaen, Caerffili neu Blaenau Gwent
- Gwnewch gais i’ch awdurdod lleol (ALl) am gymorth cerdyn bws (manylion cyswllt isod).
Noder y gall rhai Awdurdodau Lleol ofyn i chi greu cyfrif â nhw cyn i chi allu gwneud cais.
- Os byddwch yn cael eich cymeradwyo, bydd angen i chi dalu eich ffi am y tymor cyntaf wrth gofrestru.
- Gwneud cais am Fy Ngherdyn Teithio (16-21)
Casglwch a thalwch am eich cerdyn bws am y tymor gan y Gwasanaethau Dysgwyr a thalu eich ffi ostyngol ar y bws.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
www.blaenau-gwent.gov.uk | 01495 311556
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
www.caerphilly.gov.uk | 01443 866530
Cyngor Dinas Casnewydd
www.newport.gov.uk | 01633 656656
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Rhwng 16 a 18 oed ac yn byw yn Sir Fynwy, yn 19 oed neu'n hŷn ac mae'r awdurdod lleol wedi gwrthod rhoi cludiant am ddim i chi
- Gwneud cais am Fy Ngherdyn Teithio (16-21)
Talwch eich ffi bob tymor wrth i chi ymrestru:
- £10 os ydych rhwng 16 a 18 oed
- £40 os ydych yn 19 oed neu hŷn
Casglwch a thalwch am eich cerdyn bws am y tymor gan y Gwasanaethau Dysgwyr a thalu eich ffi ostyngol ar y bws.
Fy Ngherdyn Teithio 16-21
Mae hwn yn gynllun teithio am bris gostyngol ar gyfer pobol 16-21 oed gan Lywodraeth Cymru Mae’n rhaid i chi gael Fy Ngherdyn Teithio i sicrhau fod eich cerdyn bws Coleg Gwent yn ddilys. I gofrestru, ewch i fyngherdynteithio.llyw.cymru neu ffoniwch 03002002233.
Noder: mae pob cymorth ariannol yn dibynnu ar gyllid y coleg ac fe all newid. Mae’n rhaid i chi gyrraedd y meini prawf cymhwystra. Nid yw cymorth wedi’i warantu nes i chi gael hysbysiad ysgrifenedig. Am fwy o wybodaeth a chyngor ariannol anfonwch e-bost at financesupport@coleggwent.ac.uk neu ffoniwch 01495 333777.
Amserlenni Bws
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bysiau ac amserlenni, ewch i www.traveline.info neu ffoniwch 0871 200 2233.