En

Canlyniadau a Chyngor

Nid yw hi’n rhy hwyr i wneud cais ar gyfer ein hystod eang o gyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol sy’n dechrau ym mis Medi

Dechreuwch eich gyrfa gydag un o’n cyrsiau llawn amser neu addysg uwch lefel prifysgol - gwnewch gais nawr!

Cysylltwch â’n timau recriwtio myfyrwyr a derbyniadau cyfeillgar i drafod eich camau nesaf. Dewch i weld ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar ein Dyddiau Canlyniadau a Chyngor ym mhob un o’n campysau ar:

  • Dydd Iau 15 Aws – 8:30am-4:30pm
  • Dydd Gwener 16 Awst – 8:30am-4:00pm
  • Dydd Iau 22 Awst – 8:30am-4:30pm
  • Dydd Gwener 23 Awst – 8:30am-4:00pm
Cymerwch olwg ar yr ystod o gyrsiau galwedigaethol a Safon Uwch sydd gennym yn dechrau fis Medi.
Dewch o hyd i gwrs lefel prifysgol yn agos i gartref – astudiwch yn agos ac ewch yn bell y mis Medi hwn!

Ydych chi angen ychydig o gymorth gan ein tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar?

Wedi cyflwyno cais eisoes ac wedi cael eich graddau?

Do

Bydd angen ichi gadarnhau eich lle drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Coleg Gwent. Os hoffech fwy o gyngor ac arweiniad cyn derbyn eich cynnig, gallwch sgwrsio gyda’n tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar ar 01495 333777 (dewiswch opsiwn 1), neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk.

Sicrhewch fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir ar eich cais, gan y byddwn yn anfon diweddariadau rheolaidd i’r cyfeiriad y byddwch yn ei nodi.

Naddo

Peidiwch â chynhyrfu! Nid yw hi’n rhy hwyr i wneud cais ar-lein ac ymuno â ni fis Medi.

Mae ein tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar yma i’ch helpu i ddewis y cwrs perffaith i chi ac i gyflwyno’ch cais. Gallant eich helpu gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon, felly ffoniwch nhw ar 01495 333777 (dewisiwch opsiwn 1), neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk heddiw.

Neu beth am ddod i’n gweld ar un o’n Dyddiau Canlyniadau a Chyngor i archwilio mwy o opsiynau?

A ydych chi wedi gwneud cais eisoes ond heb ennill y graddau sydd eu hangen arnoch?

Gobeithiwn y byddwch wrth eich bodd gyda’ch canlyniadau, ond peidiwch â phoeni os na fyddwch yn cael y canlyniadau a obeithiwyd. Beth bynnag fydd yn digwydd, rydym yma i’ch cefnogi a gallwch lwyddo yn Coleg Gwent.

Os na chawsoch y graddau oedd eu hangen arnoch ar gyfer eich cwrs, dewch draw ar gyfer eich ymrestru beth bynnag a gallwn drafod eich opsiynau. Os hoffech siarad â ni cyn hynny, bydd ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn barod i’ch helpu. Bydd gennym gwrs llawn amser neu addysg uwch i chi. Ffoniwch nhw ar 01495 333777 (dewisiwch opsiwn 1) neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk. heddiw.

Ydych chi eisoes wedi gwneud cais ond eisiau newid eich cwrs?

Dim problem! Cysylltwch â’n tîm Recriwtio Myfyrwyr ar 01495 333777 (dewiswch opsiwn 1) neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk. am gyngor ac arweiniad.

Mynnwch fwy o wybodaeth ynghylch ymrestru a dechrau eich cwrs llawn amser neu addysg uwch nawr. Edrychwn ymlaen at eich gweld ym mis Medi!