En

Cyfrifon Dysgu Personol

Manteisiwch ar gyrsiau HYBLYG, AM DDIM mewn amrywiaeth o ddiwydiannau

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn gyrsiau am ddim sy’n rhoi sgiliau a chymwysterau newydd i chi – rhai y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt – i’ch helpu chi i fanteisio ar brinder sgiliau a chael eich gyrfa i symud.

Yn well fyth, maent yn hyblyg –bydd y coleg yn gwneud ei orau glas i gwrdd ag anghenion pawb wrth gynllunio’r dyddiadau a’r amseroedd y cynhelir y cyrsiau. Mae’r colegau yn hyblyg a’u nod fydd darparu’r dysgu o amgylch ymrwymiadau teuluol a gwaith unigolio.

Pwy all wneud cais am Gyfrif Dysgu Personol?

Rhaid i chi:

  • Fyw yng Nghymru
  • Fod yn 19 oed neu’n hŷn
  • Bod yn gyflogedig
    (gan gynnwys carcharorion ar ryddhad diwrnod, asiantaethau neu gontractau dim oriau) neu Hunan-gyflogedig or Gofalydd amser llawn (gan gynnwys heb dâl)
  • Ac nid yw eu cyflog blynyddol sylfaenol yn uwch na £32,371*

* Nid oes cap cyflog ar gyrsiau digidol, sero net neu Tata ar gyfer 2024/25

Porwch ein cyrsiau Cyfrifon Dysgu Personol yn ôl sector diwydiant:

Cwestiynau Cyffredin

Pwy sy'n gymwys / ddim yn gymwys?

  1. I fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen, mae’n rhaid bod unigolion yn:
  • byw yng Nghymru yn gyfreithlon
  • 19 oed neu’n hŷn
  1. Yn ogystal, mae’n rhaid bod unigolion yn:
  • gyflogedig (gan gynnwys carcharorion ar ryddhad diwrnod, asiantaethau neu gontractau dim oriau) neu’n
  • hunan-gyflogedig neu’n
  • ofalwyr amser llawn (gan gynnwys heb dâl)

AC nid yw eu cyflog blynyddol sylfaenol yn uwch na £32,371 (Nid oes cap cyflog ar gyrsiau digidol, sero net neu Tata ar gyfer 2024/25)

  1. Dyfernir unigolion yn anghymwys os ydynt ar adeg cyflwyno’r cais:
  • dan 19 oed neu’n
  • mynychu’r ysgol, addysg bellach neu addysg uwch yn amser llawn neu’n
  • dilyn rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith a ariennir gan Lywodraeth Cymru neu’n
  • wladolyn dramor anghymwys neu’n
  • derbyn Grant Dysgu’r Cynulliad neu Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu
  • Yn ddi-waith (nad oes gennych gontract cyflogaeth)

Sut y gellir cael mynediad at y rhaglen?

Gall unigolion wneud cais uniongyrchol i’r colegau drwy Cymru’n Gweithio ar 0800 028 4844, neu ewch i cymrungweithio.llyw.cymru

Sut ydw i'n gwybod pryd fydd y cwrs yn cael ei gynnal?

Bydd y coleg yn gwneud eu gorau i fodloni anghenion pawb wrth gynllunio dyddiadau ac amseroedd i gynnal y cyrsiau. Mae’r colegau yn hyblyg ac yn ceisio darparu addysg sy’n cyd-fynd ag ymrwymiadau teuluol a gwaith pobl. Bydd eich argaeledd yn cael ei drafod yn ystod eich asesiad cyn-derbyn.

A ydych yn gallu gwneud un o’r rhain os oes gennych radd eisoes

Gallwch. Fodd bynnag, os ydych yn astudio’n llawn amser ar gyfer gradd neu unrhyw gymhwyster ffurfiol arall ar hyn o bryd, ni fyddech yn gymwys.

Beth yw Cymru’n Gweithio a sut allant fod o gymorth?

Mae Cymru’n Gweithio yn darparu dull symlach at gefnogi cyflogaeth gan gynnig pwynt cyswllt sengl i unigolion, a thrwy hynny, gael mynediad at y cyngor a hyfforddiant arbenigol, unigryw sydd ei angen arnynt i ddod o hyd i, a chadw cyflogaeth hirdymor, dda. Mae gwasanaeth cynghori rhad ac am ddim yn cynnig cymorth wyneb yn wyneb i unrhyw un dros 16 oed sydd ddim mewn addysg llawn amser ac sydd eisiau sicrhau swydd. Mae eu cymorth cyflogadwyedd drwy Raglen Gyrfa Cymru Camau at Gyflogaeth yn cynnwys hyfforddiant swydd benodol, chwilio am swyddi, ysgrifennu CV, magu hydref, paratoi at gyfweliad a sicrhau profiad gwaith. Fe all yr
ymgynghorwyr arbenigol gyfeirio pobl i raglenni ble gallant gael mynediad at gymorth gofal plant a chymorth gyda thrafnidiaeth.  ellach, dyma’r brif sianel ar gyfer pobl sy’n chwilio am gyflogaeth a hyfforddiant.

Sut mae'r cyrsiau yn cael eu hariannu?

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 100% o gost y cwrs.

Faint fydd o’n gostio i mi?

Bydd y cwrs yn cael ei ariannu 100% gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, bydd angen ichi sicrhau bod gennych yr amser angenrheidiol i ymrwymo i fynychu a chwblhau’r cwrs.

A fydd rhaid imi ad-dalu ffioedd y cwrs pe na bawn i’n gallu cwblhau’r cwrs?

Na fydd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol yn llawn. Rydym yn deall bod amgylchiadau personol yn newid i unigolion ac efallai y bydd sefyllfaoedd ble na all cyfranogwyr barhau â’u cwrs. Ble mae unigolyn yn tynnu’n ôl o gwrs, a cyn gwneud cais am gwrs Cyfrif Dysgu Personol arall, byddent yn parhau’n gymwys cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y rhaglen. Fodd bynnag, pe bai unigolyn yn rhoi’r gorau iddo fwy nag unwaith byddai Llywodraeth Cymru yn cynghori nad ydynt yn gymwys ar gyfer cyllid ar gyfer Rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yn y dyfodol.

Pa offer sydd angen arnaf ar gyfer cyrsiau ar-lein?

Noder, byddwch angen cysylltiad â’r rhyngrwyd a gliniadur/cyfrifiadur er mwyn cwblhau un o’n cyrsiau e-ddysgu neu rithiwr. Hefyd, byddwch angen meicroffon a gwe-gamera ar gyfer rhai cyrsiau. Gwiriwch eich bod yn gallu defnyddio’r offer hanfodol cyn cyflwyno eich cais.

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Anfonwch e-bost at pla@coleggwent.ac.uk.
Fel arall, gallwch ffonio 01495 333777

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau