En

Dysgu ac Addysg

Y tu mewn neu y tu allan i’r dosbarth, gall gyrfa sy’n helpu eraill fod yn werth chweil

Mae cymorth dosbarth mewn ysgolion yn hanfodol er mwyn helpu plant i gyflawni eu potensial llawn. Os yw gweithio mewn rôl gefnogol o ddiddordeb i chi, mae ein cymwysterau addysgu ac addysg yn opsiwn gwych.

Gall helpu eraill i ddysgu a llwyddo hyd eithaf eu gallu fod yn werth chweil, a chynnig gyrfa i chi lle mae pob diwrnod yn wahanol! Gallwch ddewis gweithio â phlant ifanc neu gydag oedolion ifanc sydd ar fin mentro i’r byd annibynnol – chi sydd i benderfynu!

Drwy ennill cymhwyster gyda Coleg Gwent, gallwch fanteisio ar ein tiwtoriaid profiadol, grwpiau dysgu bach a chefnogol a chyfleusterau arbennig.

3 cwrs ar gael

Gadael fy swydd oedd y penderfyniad mwyaf i mi ei wneud erioed. Bu i siarad â fy nhiwtor roi’r hyder i mi i roi’r gorau i fy ngwaith mewn manwerthu a dod i’r coleg yn llawn amser.

Ewch amdani, mwynhewch a manteisiwch ar y cwrs, byddwch yn magu mwy o hyder. Er bod Sgiliau am Astudiaeth Bellach yn flwyddyn ychwanegol mae’n hynod fuddiol ar gyfer y cwrs mynediad y flwyddyn ddilynol.

Julie Morphet
Sgiliau ar gyfer Astudiaeth Bellach, Campws Dinas Casnewydd

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Gwnewch gais nawr!
Pam dewis Coleg Gwent?