Dysgwyr Addysg Uwch Llawn Amser
Mae cymorth ariannol amrywiol ar gael ichi dros oes eich cwrs, yn cynnwys benthyciadau (y bydd yn rhaid ichi eu talu’n ôl) a grantiau/bwrsarïau (na fydd yn rhaid ichi eu talu’n ôl). Mae’r cymorth yr ydych yn gymwys i’w gael yn dibynnu ar eich cwrs, ble yr ydych yn astudio, incwm eich aelwyd a ble yr ydych yn byw.
Gwybodaeth
- Gall Prifysgolion a Cholegau godi ffioedd dysgu o hyd at £9,250 y flwyddyn. Gall myfyrwyr sy’n astudio eu cwrs Addysg Uwch cyntaf ac sydd fel arfer yn byw yng Nghymru gael benthyciad o hyd at £9,250 ar gyfer ffioedd dysgu. Nid yw’r benthyciad hwn yn seiliedig ar incwm eich aelwyd.
- Yn ogystal â’r benthyciad ffioedd dysgu, gallwch gael cymorth cynhaliaeth (i helpu gyda chostau byw). Gall myfyrwyr cymwys sy’n byw oddi cartref (y tu allan i Lundain) gael £11,726 y flwyddyn, sef cymysgedd o grant a benthyciad. Bydd swm y grant yn dibynnu ar incwm eich aelwyd (gweler yr enghreifftiau isod).
- Ni fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn talu unrhyw beth ymlaen llaw.
- Nid oes yn rhaid i fyfyrwyr dalu unrhyw beth yn ôl hyd nes y byddant wedi cael swydd ac yn ennill mwy na £27,295.
- Os ydych wedi dilyn cwrs Addysg Uwch o’r blaen, mae’n bwysig ichi ddeall y gallai hynny effeithio ar eich cymhwystra i gael cymorth. I gael manylion, ewch i https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ a darllenwch yr adran ar reolau astudiaeth flaenorol.
- Mae’r tabl isod yn dangos sut y mae incwm yr aelwyd yn pennu faint o grant cynhaliaeth y gallwch ei gael. Bydd pob myfyriwr yn cael o leiaf £1,000 a gellir ychwanegu at hyn gyda benthyciad.
Mae’r tablau hyn yn dangos amcangyfrif o’r swm y gallech ei gael ar sail incwm eich cartref:
2023 i 2024
Setiau o ddata aelwydydd | Byw gartref gyda rhieni/partner/unigol | Byw oddi cartref, astudio y tu allan i Lundain | ||
Benthyciad | Grant | Benthyciad | Grant | |
£18,370 neu lai | £3,065 | £6,885 | £3,620 | £8,100 |
£25,000 | £4,020 | £5,930 | £4,773 | £6,947 |
£35,000 | £5,462 | £4,488 | £6,512 | £5,208 |
£45,000 | £6,903 | £3,047 | £8,251 | £3,469 |
£59,200 neu fwy | £8,950 | £1,000 | £10,720 | £1,000 |
Cyfanswm | £9,950 | £11,720 |
Beth ddylwn i wneud nesaf?
Gellir dod o hyd i fanylion llawn am yr holl gymorth ariannol a sut i wneud cais ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/. Bydd modd i fyfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru wneud cais am gymorth ar-lein o fis Mawrth 2021.
Byw yn Ne Ddwyrain Cymru
Os ydych yn fyfyriwr sy’n byw y tu allan i Gymru, cewch wybodaeth am gyllid a phrosesau ymgeisio trwy ddilyn y dolenni canlynol:
- A YDYCH CHI’N BYW YN LLOEGR? UK Student Finance
- A YDYCH CHI’N BYW YN YR ALBAN? SAAS
- A YDYCH CHI’N BYW YNG NGOGLEDD IWERDDON? Swyddog Cyllid Myfyrwyr
- Gall myfyrwyr rhyngwladol ddod o hyd i wybodaeth yma: UKCISA
Cymorth ariannol
Efallai y cewch gyllid ychwanegol os oes gennych oedolion neu blant sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Gall hyn gynnwys:
- Grant Oedolyn Dibynnol
- Grant Gofal Plant
- Lwfans Dysgu i Rieni
Dysgwyr Addysg Uwch Rhan Amser
Cymorth gyda Ffioedd Dysgu
Gall pawb sy’n astudio yng Nghymru ymgeisio am fenthyciad nad yw’n dibynnu ar brawf modd o hyd at £2,625 i dalu eu ffioedd blynyddol. I fod yn gymwys, rhaid ichi astudio ar ddwysedd o 25% o leiaf, e.e. mae myfyriwr llawn amser yn cwblhau 120 credyd mewn blwyddyn, felly byddai’n rhaid i fyfyriwr rhan amser gwblhau o leiaf 30 credyd y flwyddyn.
Cymorth Cynhaliaeth (Costau Byw)
Gallwch ymgeisio am gymorth o hyd at £5,111.25 tuag at gostau byw, sy’n gyfuniad o grant (na fydd yn rhaid ichi ei dalu’n ôl) a benthyciad (y bydd yn rhaid ichi ei dalu’n ôl). Bydd swm y grant a gewch yn dibynnu ar nifer yr oriau y byddwch yn astudio (dwysedd astudio) ac incwm eich aelwyd.
Ceir enghreifftiau o’r grantiau a’r benthyciadau sydd ar gael yn ôl gwahanol lefelau o incwm aelwydydd a dwysedd astudio yn y tabl isod.
Incwm (£) |
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru neu Grant Cymorth Arbennig (£) |
Benthyciadau Cynhaliaeth(£) |
Cyfanswm y Grant a’r Benthyciad (£) |
|||
Astudio ar ddwysedd o 75% | ||||||
£25,000 | £4,500.00 | £611.25 | £5,111.25 | |||
£30,000 | £3,952.50 | £1,158.75 | £5,111.25 | |||
£35,000 | £3,404.25 | £1,707.00 | £5,111.25 | |||
£40,000 | £2,856.00 | £2,255.25 | £5,111.25 | |||
£45,000 | £2,307.75 | £2,803.50 | £5,111.25 | |||
£50,000 | £1,759.50 | £3,351.75 | £5,111.25 | |||
£55,000 | £1,211.25 | £3,900.00 | £5,111.25 | |||
£59,200 | £750.00 | £4,361.25 | £5,111.25 | |||
Astudio ar ddwysedd o 50% | ||||||
£25,000 | £3,000.00 | £407.50 | £3,407.50 | |||
£30,000 | £2,635.00 | £772.50 | £3,407.50 | |||
£35,000 | £2,269.50 | £1,138.00 | £3,407.50 | |||
£40,000 | £1,904.00 | £1,503.50 | £3,407.50 | |||
£45,000 | £1,538.50 | £1,869.00 | £3,407.50 | |||
£50,000 | £1,173.00 | £2,234.50 | £3,407.50 | |||
£55,000 | £807.50 | £2,600.00 | £3,407.50 | |||
£59,200 | £500.00 | £2,907.50 | £3,407.50 |
Cymorth ariannol
Efallai y cewch gyllid ychwanegol os oes gennych oedolion neu blant sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Gall hyn gynnwys:
- Grant Oedolyn Dibynnol
- Grant Gofal Plant
- Lwfans Dysgu i Rieni