
Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae gwasanaethau cyhoeddus wrth wraidd ein cymuned, yn helpu ein gwlad i weithredu’n ddiogel ac i ymdopi ar adegau o argyfwng. Felly, wrth ddilyn gyrfa ym maes proffesiwn o fewn y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai neu wasanaeth heb lifrai, byddwch yn chwarae rôl hanfodol o fewn cymdeithas, gyda gyrfa werthfawr o’ch blaen.
Mae cymhwyster o fewn y gwasanaethau cyhoeddus yn arwain at amrywiaeth o opsiynau cyffrous o ran gyrfaoedd, ynghyd â rolau rheng flaen dynamig. Os ydych yn frwdfrydig am ddod yn barafeddyg, neu fod gennych awydd bod yn ddiffoddwr tân, neu hyd yn oed yn fôr-filwr, bydd ein cyrsiau gwasanaethau cyhoeddus yn eich helpu i ddod yn un o’r lluoedd sy’n gwneud daioni mewn cymdeithas!
Gan ddewis o blith bob math o lwybrau gyrfa, gallwch fynd ymlaen i rolau o fewn y gwasanaethau brys, gorfodi’r gyfraith, y gwasanaethau cymdeithasol a mwy, gyda swyddi o fewn:
Gyda chyrsiau gwasanaethau cyhoeddus ar lefelau 1, 2, a 3, byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth y mae arnoch eu hangen i ffynnu yn eich gyrfa. Mae gan ein cyrsiau gyfuniad o theori a gweithgareddau ymarferol. Gan gynnwys tripiau, gweithdai, a siaradwyr gwadd i gyfoethogi eich dysg, cewch ennill profiad mewn maes galwedigaethol i hybu eich gobeithion o ran gyrfa.
Ar ôl cwblhau ein cyrsiau gwasanaethau cyhoeddus, byddwch yn barod am fyd gwaith. Os ydych eisiau dringo’r ysgol yrfaoedd, gallwch fynd â phethau gam ymhellach trwy wneud ein HND ar lefel prifysgol, mewn Gwasanaethau Cyhoeddus a Brys. Mae’r cyfleoedd y maes y gwasanaethau cyhoeddus yn ddiddiwedd, ond cwrs yma yng Ngholeg Gwent yw’r man cychwyn.
Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwasanaethau Cyhoeddus
Chwaraeon a Ffitrwydd
Chwaraeon a Ffitrwydd
Rydym yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau ac mae gennym lawer o gysylltiadau â’r gwasanaethau cyhoeddus. Rydyn ni’n cael ein haddysgu gan aelodau presennol neu gyn-aelodau o ystod o wasanaethau cyhoeddus. Daeth Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu atom i roi cipolwg gwirioneddol i ni o’r rôl. Rwy’n frwd dros yr awyr agored ac felly wrth fy modd ag ochr ymarferol y cwrs hefyd, fel dringo, abseilio a phadl-fyrddio.
Connor Backhouse
Gwasanaethau Cyhoeddus Lifrai, Lefel 3
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr