En

Peirianneg

Mae peirianneg yn gyrru popeth o’n cwmpas, felly mae galw mawr am beirianwyr medrus, ac mae’n ddewis doeth o safbwynt eich gyrfa at y dyfodol. Gyda chymhwyster mewn peirianneg byddwch yn defnyddio eich dyfeisgarwch, sgiliau datrys problemau, gwyddoniaeth a mathemateg, i wneud gwahaniaeth bob dydd.

Peirianneg Fecanyddol

Mae peirianneg fecanyddol yn ymwneud â dylunio, datblygu a chynnal systemau mecanyddol. Gan weithio ar wahanol beiriannau, motorau, awyrennau, ceir, dyfeisiau meddygol, tŵls a mwy, mae rôl peirianwyr mecanyddol yn amrywiol. Maen nhw’n mynd â chynnyrch o ddechrau’r broses i’r diwedd, gan ymgorffori estheteg, ymarferoldeb, ergonomeg, a gwydnwch i ddatrys problemau bob dydd.

Peirianneg Drydanol ac Electronig

O ffonau symudol i setiau teledu, a cheir trydan i orsafoedd pŵer, mae peirianwyr trydanol ac electronig yn hanfodol yn ein byd modern! Gyda’r dyfodol yn edrych yn wyrddach, mae galw cynyddol am y peirianwyr hyn. Gan ddelio â thrydan, dargludiad ac electromagneteg, maen nhw’n adeiladu a chynnal systemau, cynhyrchion a chydrannau trydanol at amryw ddibenion.

Gallwch gael manylion am gyrsiau gosodiadau trydanol domestig ar gyfer dod yn drydanwr ar ein tudalennau Adeiladu.

Peirianneg Sifil

Gan orgyffwrdd â’r diwydiant adeiladu, mae peirianwyr sifil yn cefnogi isadeiledd ein trefi a’n dinasoedd. Maen nhw’n dylunio, yn datblygu ac yn rheoli adeileddau, o bontydd i stadia, a thwnelau i nendyrau (‘skyscrapers’). Defnyddir bob math o dechnoleg a deunyddiau ganddyn nhw i adeiladu’r hyn y maen nhw’n ei greu, gan ystyried ffactorau geodechnegol, ecolegol a saernïol, sy’n ei wneud yn faes gwaith amrywiol iawn.

Peirianneg Fodurol

Mae galw mawr am beirianwyr modurol yn ein byd modern. Gan ddylunio, datblygu, profi, adeiladu ac atgyweirio cerbydau, maen nhw’n deall systemau peiriannau, siasïau, technoleg tanwydd, thermodynameg a mwy. O geir i feiciau modur, a cherbydau trydan i chwaraeon moduro a rasio, mae hwn yn sector sy’n symud yn gyflym.

Peirianneg Awyrenegol

Yn oes awyrennau di-griw, archwilio’r gofod, lloerennau, a theithiau awyr i deithwyr, mae peirianwyr awyrenegol yn anelu’n uchel. O ddeall damcaniaeth hedfan i systemau afionig ac erodynameg, mae arloesedd, diogelwch, a’r offer diweddaraf un yn ganolog i’r maes tra arbenigol hwn, ac mae’n un sy’n tyfu fel y mae technoleg yn datblygu.

Saernïo a Weldio

Mae torri, asio a siapio metel a deunyddiau cyfansawdd ar gyfer y diwydiannau peirianneg ac adeiladu yn gwneud saernïo a weldio yn rôl hanfodol. Gan ddefnyddio amrywiaeth o brosesau a gweithio gyda

deunyddiau fel dur ac aloiau, mae gwneuthurwyr a weldwyr yn gweithio ar draws amryw sectorau, ac mae nifer o gyfleoedd ar gael o ran swyddi.

Mae llwybrau gyrfa ym maes peirianneg yn cynnwys:

  • Peiriannydd Modurol
  • Peiriannydd Dylunio
  • Crefftau Peirianneg
  • Technegydd Peirianneg
  • Gwneuthurwr
  • Rheolwr
  • Peiriannydd Mecanyddol
  • Peiriannydd Trydanol
  • Peiriannydd Cynhyrchu
  • Weldiwr
  • Archwiliwr Weldiau
  • Adeiladwr Llongau
  • Adeiladwr Pontydd
  • Peiriannydd Chwaraeon Moduro
  • Saernïo a Weldio
  • Gweithredwr Peiriannau
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

19 cwrs ar gael

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Mae llawer o dechnegau addysgu gwahanol yn y coleg ac mae’r cyfleusterau peirianneg yn dda iawn. Mae’r gweithdai wedi’u cyfarparu’n dda ar gyfer gwaith ymarferol gydag offer safonol y diwydiant. Mae yma raglenni dylunio CAD 3D, ynghyd ac offer ar gyfer adeiladu cylchedwaith ar-lein. Ar hyn o bryd rwy’n cael fy noddi gan Tata Steel ac yn gobeithio cael cynnig prentisiaeth ar ôl y cwrs hwn.

Macsen Davies
Peirianneg Drydanol Uwch

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau