![Learner using computer](https://b2822998.smushcdn.com/2822998/wp-content/uploads/2022/12/business-video-thumb-768x432.jpg?lossy=0&strip=1&webp=1)
Cyfrifeg a Busnes
Os ydych chi’n chwilio am yrfa sy’n gyffrous a deinamig, gallai gyrfa mewn cyfrifeg a chyllid fod yn addas i chi. Efallai eich bod wedi rhoi eich bryd ar weithio i gorfforaeth fawr, neu eisiau cychwyn un eich hun; mae pawb yn cychwyn yn rhywle. Felly, beth am gychwyn yma?
Mae bywyd modern ar y cyfan yn cael ei reoli gan fusnes. Mae ein cyrsiau busnes yn trafod y byd busnes yn ei gyfanrwydd, gan roi’r llwyfan i chi arbenigo yn eich maes o arbenigedd neu ddiddordeb yn y brifysgol neu yn y gwaith.
Marchnata, Adnoddau Dynol, cyllid, rheoli, masnachu, yswiriant a bancio… mae’r byd busnes o fewn eich cyrraedd!
Mae Cyfrifeg yn llawer mwy na rhifau a thaenlenni. Gallwch astudio mewn busnes, ymarfer neu fancio, ac unwaith y byddwch yn gymwys gwelir cyfrifwyr siartredig yn gweithio ar lefel uwch ledled y byd. Gallwch fod yn arbenigwr cyllidol yng nghanol pob maes o fewn busnes.
Mae’r cyfrifwr cyfoes yn gweithio mewn sawl maes, o adferiad corfforaethol ac ymgynghori i gyfrifo fforensig. Gallant fod yn gweithio ar draws y byd, o Ynysoedd y Cayman i Frasil. I ble fydd eich cwrs cyfrifo yn eich arwain chi?
Ein cyrsiau llawn amser Ein cyrsiau rhan amser
Porwch drwy ein cyrsiau isod neu cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol
Rwy’n hoffi’r amrywiaeth o bethau rydyn ni’n dysgu amdanyn nhw ar y cwrs Busnes. Mae’n cwmpasu’r holl wahanol fathau o fusnesau, sut i sefydlu eich busnes eich hun, cyllid, sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm. Rydw i bellach wedi datblygu sgiliau sylfaenol oedd gen i’n flaenorol hyd yn oed yn fwy, ac rwyf wedi sicrhau swydd cyn gynted ag y byddaf yn gorffen fy nghwrs!
Jess Mason
Diploma Estynedig BTEC Astudiaethau Busnes, Lefel 3
Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr