Pam dewis Coleg Gwent? Dyma ddeg rheswm pam ein bod yn berffaith ichi!

1. Ein llwyddiant
Rydym yn cyrraedd graddau llwyddo sylweddol.
Yn 2023/24, roedd ein cyfradd lwyddo Lefel A yn 96% ar gyfer dysgwyr llawn amser, gyda graddfa lwyddo o 100% mewn 50 o chyrsiau Lefel A, tra bod mwy na 1,000 o ddysgwyr wedi llwyddo cwblhau cyrsiau galwedigaethol.

2. Cyflawnwch eich nodau
Rydym yn cynnig llwybrau datblygu a llwyddo clir.
Pa un a ydych yn symud ymlaen i lefel nesaf astudio neu i un o’n Graddau Sylfaen, gallwn eich helpu i gynllunio sut i gyrraedd eich gyrfa ddelfrydol.

3. Gwella eich cyflogadwyedd
Mae gennym gysylltiadau da gyda chyflogwyr.
Maent yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith, Prentisiaethau a lleoliadau.

4. Cyfarfod yr arbenigwyr
Mae ein tiwtoriaid profiadol, sydd wedi ennill gwobrau, yn arbenigwyr yn eu meysydd.
Byddwch yn cael eich addysgu gan y goreuon.

5. Eich cefnogi chi
Rydym yn eich cefnogi er mwyn eich helpu i ragori ar eich cwrs.
Ac rydym hefyd yn cynnig cymorth dysgu ychwanegol ar gyfer y rheiny sydd ag anawsterau dysgu neu anableddau.

6. Y ffactor ‘WAW’!
Mae ein ‘Materion Dydd Mercher’ yn rhoi slotiau amserlen penodol ichi ar gyfer cyfoethogi.
Gall gweithgareddau gynnwys chwaraeon, clybiau a chymdeithasau, Dug Caeredin, codi arian, gwirfoddoli a llawer mwy.

7. Cyfleusterau arbenigol
Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer profiad ymarferol a thechnegol y byddwch yn ei ddefnyddio yn y gweithle.
Mae cyfleusterau yn cynnwys ein salonau gwallt a harddwch, stiwdio recordio, canolfan profi nwy ACS, canolfan moduro ATA, bwyty Morels, theatrau perfformio a fferm weithiol.

8. Rydym yn gwrando arnoch chi
Byddwn yn defnyddio eich adborth i wella’r profiad coleg.
Rydym wedi ennill gwobrau am ein gweithgareddau llais y dysgwr.

9. Digonedd o ddewis
Mae gennym ystod eang o gyrsiau ichi ddewis o’u plith.
Rydym yn cynnig dros 30 pwnc Lefel A a thros 150 cwrs galwedigaethol llawn amser, yn ogystal â dros 40 cwrs lefel prifysgol.

10. Byddwch yn angerddol
Byddwn yn rhoi pob cyfle ichi ddilyn eich breuddwyd.
Gyda Coleg Gwent, gallwch astudio maes sydd o ddiddordeb i CHI, rydych CHI wedi ei ddewis a byddwch CHI eisiau dilyn gyrfa ynddo.