Mae fferm gwbl weithredol Coleg Gwent ym Mrynbuga yn ystâd 296 erw, yn gartref i 200 o fuchesi godro, 250 o ddefaid a llu o anifeiliaid fferm eraill. Mae’n cael ei defnyddio i roi profiad ymarferol o reoli cefn gwlad ac amaethyddiaeth i fyfyrwyr, ac yn eu galluogi i fynd i’r afael â systemau masnachol, âr a da byw. Fel fferm weithiol, mae myfyrwyr hefyd yn dysgu am reoli a chadw cofnodion
Cynadledda
Fferm Brynbuga yw’r lle delfrydol ichi gynnal digwyddiadau a chynadleddau anifeiliaid ac amaethyddol. Drwy ddefnyddio ein fferm weithiol a chanolfan gofal anifeiliaid bychan ar gyfer arddangosiadau, gallwch helpu i ddod ag unrhyw ddigwyddiad yn fyw, yn ogystal â chael defnydd lawn o’n hystafelloedd TG ac ystafelloedd cyfarfod ar gyfer mynychwyr.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01291 673974.
Nodyn: Ni fydd yr elfennau safle o gyrsiau fferm ac amaethyddol ar ein Gampws Brynbuga ar gael i fyfyrwyr sy’n dechrau ym mis Medi 2023.