









Canolfan gofal anifeiliaid
Gan roi mantais ichi o ran dysgu sgiliau ymarferol, mae ein cyfleusterau eithriadol yn cynnwys canolfan gofal anifeiliaid bwrpasol. Mewn lleoliad hyfryd yng nghefn gwlad Sir Fynwy, mae’r ganolfan gofal anifeiliaid yn gartref i dros 200 o anifeiliaid gan gynnwys ymlusgiaid, mamaliaid, adar ac infertebratau.
Mae casgliad ein canolfan gofal anifeiliaid o anifeiliaid domestig ac egsotig yn hanfodol i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer gwaith yn y sector gofal anifeiliaid pellgyrhaeddol. Gyda’i gasgliad amrywiol o anifeiliaid, gall myfyrwyr ennill profiad gyda llawer o rywogaethau a dysgu sut i ofalu amdanynt yn iawn.
Rydym yn darparu’r lefel uchaf o ofal a hwsmonaeth ar gyfer ein holl anifeiliaid preswyl i osod esiampl dda i’n dysgwyr, gan wneud yn siŵr eu bod yn barod i ymuno â’r diwydiant gyda chyfoeth o wybodaeth ac arfer gorau i’w harwain.