




Mae ein bwyty arddangos ar ein campws Crosskeys yn cynnig gwasanaeth ardderchog a gwerth am arian arbennig, ynghyd â phrydau blasus a rhestr gwinoedd eang, i greu profiad bwyta dymunol, a phopeth wedi ei goginio gan ein cogyddion sydd dan hyfforddiant sydd mor frwd dros fwyd â chi.
Gyda phrydau traddodiadol a rhanbarthol wedi eu paratoi gyda’r cynhwysion mwyaf ffres, byddwch o hyd yn gweld rhywbeth i’ch temtio yn ein bwyty hamddenol a chyfeillgar.
Amseroedd agor
Rydym ar agor amser cinio dydd Mawrth, Mercher, Iau a Gwener ar gyfer eisteddiad 12.15pm, swper dydd Mawrth ar gyfer eisteddiad 7.00pm (Yn ystod y tymor yn unig).

Archebu bwrdd
Digwyddiadau preifat
Mae Morels yn lleoliad gwych ar gyfer digwyddiad neu barti preifat. Gallwn eich helpu i drefnu eich digwyddiad, yn ogystal â darparu bwyd, gwasanaeth a gwerth am arian arbennig o dda.
Mae’r bwyty ar agor ar gyfer digwyddiadau a phartïon preifat ar nos Fawrth, rhwng 6.30 – 8.30pm.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01495 333496, neu e-bostiwch morels@coleggwent.ac.uk
Taliadau
Noder: Yn dechrau 1 Ebrill 2024, bydd Bwyty Morels ond yn derbyn taliadau cerdyn

Bwyty Morels
Bloc C
Campws Crosskeys
Heol Risca
Crosskeys
Caerffili
NP11 7ZA



