26 Tachwedd 2024
Mae wedi bod yn flwyddyn wych arall i Coleg Gwent yng nghystadlaethau WorldSkills UK.
Mae ein dysgwyr dawnus unwaith eto wedi arddangos eu sgiliau eithriadol gan ennill gwobrau Aur, gwobrau Arian a gwobrau Clodfawr ar draws ystod o ddisgyblaethau.
Yn ystod rownd derfynol eleni, cystadlodd myfyrwyr a phrentisiaid o ledled y wlad mewn ystod o ddisgyblaethau sy’n seiliedig ar sgiliau o golur creadigol i arlwyo a chynhyrchu’r cyfryngau i drin gwallt.
Brwydrodd dros 400 o gystadleuwyr o ledled y DU i gael eu coroni’n ‘bencampwr sgiliau’ yn eu meysydd arbenigol a llwyddodd 16 o’n dysgwyr i gyrraedd y rownd derfynol.
Enillodd ein dysgwyr gyfanswm o 12 o fedalau, gan atgyfnerthu safle Coleg Gwent ymhlith y deg coleg gorau ar draws y DU ar gyfer hyfforddiant sgiliau gan orffen yn safle pump yn gyffredinol.
Dyma rai o’n pencampwyr sgiliau
Ers 2012, rydym wedi bod yn falch o gefnogi llawer o ddysgwyr ar eu taith trwy gystadlaethau WorldSkills.
Dywedodd Richard Wheeler, Rheolwr Cystadleuaeth Sgiliau: “Rwyf mor falch, unwaith eto, o weld ein dysgwyr yn llwyddo yng nghystadlaethau WorldSkills UK 2024. Mae eu cyflawniadau neilltuol yn dyst i’w hymroddiad a’u gwaith caled.
Yn ogystal â bod yn syfrdanol, mae’r sgiliau y maent wedi’u datblygu trwy hyfforddiant ac ymarfer hefyd yn hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’r cystadlaethau hyn wedi rhoi’r arbenigedd technegol, y sgiliau datrys problemau a’r hyder angenrheidiol i fynd yn bell yn eu dewis feysydd.
Mae ein dysgwyr yn dyst i’r safonau uchel addysg a hyfforddiant rydym yn anelu at eu darparu ac ni allwn fod yn fwy balch o’u cyflawniadau.”
Mae’r rhestr lawn o’r gwobrau a enillwyd gan fyfyrwyr Coleg Gwent ar gael isod:
Ymunwch â ni wrth ddathlu cyflawniadau neilltuol ein dysgwyr.