En

Meddyg ifanc uchelgeisiol yn ennill llwyddiant drwy cwrs Mynediad i Feddygaeth yn Coleg Gwent


8 Ebrill 2025

Gan oresgyn anawsterau ariannol, rhwystrau academaidd a hunan-amheuaeth

Gan oresgyn anawsterau ariannol, rhwystrau academaidd a hunan-amheuaeth, fe gafodd Miriam, sef mam ifanc benderfynol i ddau, gyfle arall i ennill ei swydd ddelfrydol drwy gwrs Mynediad i Feddygaeth yn Coleg Gwent.

Mae hi bellach yn astudio BSc Gwyddorau Meddygol (Anrh) ym Mhrifysgol Caerdydd – sef cwrs bwydo ar gyfer y radd israddedig mewn Meddygaeth.

Mae’r cwrs mynediad, a gyflwynir mewn partneriaeth ag Agored Cymru ac Ysgol Feddygaeth Caerdydd, yn rhaglen astudio ddwys gyda ffocws ar ystod o feysydd pwnc sydd yn hanfodol tuag at baratoi ar gyfer symud ymlaen i radd feddygol.

Mae’r cwrs yn fwy na chymhwyster yn unig — mae’n achubiaeth ar gyfer y rheini a oedd yn meddwl bod gradd feddygol tu hwnt i’w cyrraedd. P’un oherwydd trafferthion ariannol, anawsterau academaidd yn y gorffennol neu ddiffyg arweiniad, mae’r rhaglen hon yn darparu cefnogaeth deilwredig, addysg gan arbenigwyr a chyfleoedd i gael cyfweliadau gwarantedig â phrifysgolion.

Meddai Miriam: “Es i i’r coleg yn gyntaf yn 18 oed, ac yn y pen draw gadawais heb lefelau A oherwydd niwro-amrywiaeth heb ddiagnosis a’r farn nad oeddwn i’n ddigon da.

“Blynyddoedd wedyn, pan welais y cwrs Mynediad i Feddygaeth roedd y coleg yn ei gynnig, roeddwn i’n gwybod taw hwn oedd yn union y cwrs roeddwn i’n chwilio amdano. Roeddwn i am weithio i ennill gyrfa fel meddyg yn y GIG, a gwnaeth y cwrs hwn roi cyfle i mi wireddu hyn, a hyd yn oed cael cyfweliadau gwarantedig gyda rhai o’r prifysgolion gorau.”

Fe wnaeth y cwrs nid yn unig roi’r hyn a oedd angen ar Miriam i symud ymlaen yn ei gyrfa, ond fe wnaeth hefyd adfer ei hyder a’i chred yn ei galluoedd.

“Roedd dychwelyd i’r coleg fel dysgwr aeddfed yn brofiad mor gadarnhaol, yn enwedig o ystyried fy nghanlyniadau lefel A siomedig. Dydw i erioed wedi teimlo’n fwy hyderus na medrus diolch i’r darlithwyr anhygoel a wnaeth fy helpu i ailddarganfod fy nghymhelliant.

“Doedd hi ddim yn hawdd cydbwyso astudiaethau â bod yn rhiant — roeddwn yn aml yn gorffen gwaith cwrs ar lawr y stiwdio ddawns tra roedd fy merch mewn gwers. Ond roedd pob noson hwyr a phenwythnos a gollwyd yn dod â fi un cam yn nes at fy mreuddwyd.

“Mi wnes i gwblhau’r cwrs Mynediad i Feddygaeth yn 2024 a gadael gyda chanlyniadau sy’n cyfateb ag AAB, sef bydoedd ar wahân oddi wrth y ferch ifanc a oedd yn cael trafferth eistedd drwy wers, heb sôn am arholiad 12 mlynedd yn ôl.

“Rydw i mor falch ohonof fy hun am gwblhau’r cwrs a chael cynnig gan brifysgol i ddilyn fy angerdd am ddod yn feddyg. Ar hyn o bryd, rwy’n astudio’n llawn amser wrth gydbwyso bywyd cartref prysur iawn yn edrych ar ôl dau blentyn ifanc.

“Rwy’n gwybod y bydda i’n astudio am y saith mlynedd nesaf i gyrraedd lle rydw i am fod, ond mae gyrfa yn y maes meddygaeth yn ymrwymiad oes, a thrwy wneud hyn, rydw i’n rhagori ar fy mreuddwydion eithaf. Rydw i mor ddiolchgar i Coleg Gwent am fy narparu gyda’r sgiliau academaidd a gwyddonol a fydd yn aros gyda fi drwy gydol fy addysg a’m gyrfa yn y dyfodol. Ond, yn bennaf oll, rwy’n ddiolchgar am gael cymorth wrth ddysgu y gallwn gyflawni unrhyw beth.

Mae cwrs Mynediad i Feddygaeth Coleg Gwent yn darparu llwybr i unigolion efallai na fyddant fel arall wedi cael cyfle i fynd ar drywydd eu gyrfa ddelfrydol yn y maes meddygaeth. Mae’r cwrs paratoi naw mis o hyd yn paratoi myfyrwyr yn benodol ar gyfer cyrsiau gradd megis Meddygaeth a Deintyddiaeth a graddau sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth feddygol.

Bydd myfyrwyr yn astudio ystod o unedau academaidd gan gynnwys bioleg, cemeg a ffisioleg ynghyd ag ystod o unedau a gynlluniwyd i wella sgiliau academaidd myfyrwyr.

Meddai Dr. Catherine Garland, sef darlithydd Mynediad i Feddygaeth yn Coleg Gwent: “Rydym yn hynod falch o’r hyn mae Miriam wedi’i gyflawni. Cynlluniwyd ein cwrs Mynediad i Addysg er mwyn chwalu rhwystrau ac agor drysau i ddarpar weithwyr proffesiynol y maes meddygaeth, ac mae stori lwyddiant Miriam yn dyst i effaith y fenter hon. Rydym yn ymrwymedig i gefnogi ein myfyrwyr ar bob cam o’r ffordd, ac edrychwn ymlaen at weld llawer mwy o straeon llwyddiant yn y dyfodol.”

I Miriam a llawer eraill, mae’n gam cyntaf tuag at ddyfodol mwy disglair yn gweithio yn y maes meddygaeth.

Os ydych chi erioed wedi breuddwydio am yrfa yn y maes meddygaeth ond wedi ei hystyried yn amhosib, efallai y cwrs Mynediad i Feddygaeth yw eich ffordd tuag at lwyddiant.