En

Darlithydd ysbrydoledig yn ennill gwobr addysgu genedlaethol o fri


28 Mehefin 2024

Mae Alexis Dabee-Saltmarsh, sy’n ddarlithydd yng Ngholeg Gwent wedi enill Gwobr Arian am Ddarlithydd Addysg Bellach y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson.

Cafodd ei dewis o blith miloedd o enwebeion ac mae’r fuddugoliaeth yn tynnu sylw at yr effaith ryfeddol y mae Alexis yn ei chael ar fywydau’r bobl ifanc yn ei gofal.

Mae Alexis yn un o 102 o athrawon, darlithwyr, arweinwyr, staff cymorth a sefydliadau haeddiannol sy’n enillwyr arian yn y gwobrau eleni. Byddant nawr yn y ras i ennill y Wobr Aur, ac fe gyhoeddir yr enillydd mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Fel darlithydd mewn Peirianneg Fodurol ac Awyrennol, gyda diploma mewn addysg arbennig, mae Alexis wedi cael cydnabyddiaeth am ddarparu cefnogaeth heb ei ail i’r rhai ag anghenion dysgu amrywiol, tra hefyd yn integreiddio technolegau uwch fel CAD / CAM ac argraffu 3D i’r cwricwlwm – i ddatblygu profiad dysgu gwerthfawr ar draws y coleg.

Er gwaetha’r ffaith fod ganddi salwch hirdymor, mae’r darlithydd ymroddedig hefyd yn hyrwyddo addysg STEM i ferched ac yn annog menywod i ddilyn gyrfaoedd peirianneg — gan gydweithio â sefydliadau fel CREATE Education a Grŵp Cysylltiad y Merched i wella amgylcheddau dysgu gyda thechnolegau fel VR.

Mae Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson yn cael eu rhedeg gan y Teaching Awards Trust, elusen annibynnol a sefydlwyd dros 25 mlynedd yn ôl i ddathlu effaith drawsnewidiol addysg, gan dynnu sylw at y rolau allweddol y mae athrawon, staff cymorth, colegau, ysgolion ac addysgwyr blynyddoedd cynnar yn eu chwarae wrth ysbrydoli pobl ifanc.

Dywedodd Alexis: “Daeth fy ysbrydoliaeth i ddilyn gyrfa ym maes addysgu yn Coleg Gwent o angerdd hiroes am ddylunio a thechnoleg a pheirianneg sydd wedi fy nghyfareddu ers fy nyddiau ysgol.

“Rwyf bob amser wedi mwynhau profiadau ymarferol a chaf fwynhad anferthol wrth helpu pobl eraill gan fy ngalluogi i feithrin perthynas â dysgwyr yn gyflym.

“Yr hyn sy’n fwyaf buddiol am fy rôl yn y coleg yw gweld dysgwyr yn dysgu sgiliau newydd a gwthio’r ffiniau y tu hwnt i’w cyfyngiadau i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl. Yn ogystal â hyn, fel eu darlithydd, mae eu gweld yn symud i addysg uwch, prentisiaethau neu swyddi yn hynod o galonogol am ei fod yn adlewyrchu eu gwaith caled a chyd-ymdrechion staff y coleg i’w paratoi ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

“Mae’n anrhydedd fawr i mi gael fy enwebu ar gyfer Gwobr Darlithydd Addysg Bellach y Flwyddyn Pearson, yn enwedig ar Ddiwrnod Cenedlaethol Rhowch Ddiolch i Athrawon, ac rwyf wrth fy modd fy mod wedi cipio’r wobr Arian. Ar ôl blwyddyn heriol, mae’r gydnabyddiaeth hon gan fyfyrwyr a chydweithwyr yn amserol iawn ac mae’n ailddatgan pwysigrwydd addysgu.”

“Rwy’n falch iawn o allu llongyfarch enillwyr y Gwobrau Arian eleni a chydnabod y cyfraniadau a’r ymrwymiad anhygoel maen nhw wedi’i ddangos sy’n siapio bywydau’r genhedlaeth nesaf — diolch!”

Meddai Nicola Gamlin, Dirprwy Bennaeth Coleg Gwent: “Mae Alexis wir yn ymroi’n ddiwyro i bob dysgwr yn y coleg, drwy fynd ati i geisio cyfleoedd i gefnogi dysgwyr ag anghenion amrywiol. Trwy’r ymroddiad a’r angerdd hwn dros addysgu mae hi’n parhau i ysbrydoli a grymuso dysgwyr i ragori a dilyn eu breuddwydion am yrfa werth chweil yn y dyfodol.

“Rydyn ni’n hynod falch o Alexis ac ni allem fod yn hapusach bod ei chyflawniadau a’i hymdrechion yn cael eu cydnabod drwy’r wobr hon — llongyfarchiadau, Alex.”