
BBC X-Ray yn Ymweld â'n Hadran Fodurol Flaenllaw
27 Mawrth 2020
Wythnos ddiwethaf, croesawodd Gampws Crosskeys westeion hynod arbennig am y diwrnod - criw ffilmio BBC X-Ray. Dydd Mawrth 17 Mawrth, cafodd staff a dysgwyr adran Fodurol Coleg Gwent ymweliad gan wynebau adnabyddus iawn o'r BBC, a ddaeth i'n gweld i ddefnyddio ein cyfleusterau i adrodd ar brofion MOT a chynnal a chadw cerbydau modurol ar gyfer y rhaglen deledu hawliau defnyddwyr boblogaidd a gafodd ei darlledu am 7:30pm ddydd Iau 26 Mawrth.

Sut ydym yn helpu ffoaduriaid i ailadeiladu eu bywydau gyda'r Prosiect Reach+
20 Mawrth 2020
Mewn partneriaeth arloesol a blaengar gyda Chyngor Dinas Casnewydd, mae Coleg Gwent yn falch o fod yn rhan o gyflwyno'r prosiect Reach+ yn ardal Casnewydd. Mae Reach+ yn gynllun Llywodraeth Cymru sy'n darparu canolfannau cefnogi un stop yng Nghasnewydd, Caerdydd, Abertawe a Wrecsam, gyda'r nod o helpu ffoaduriaid wrth iddynt ailadeiladu eu bywydau ac integreiddio i'w cymunedau lleol.

Rôl Flaenllaw i Ddysgwyr Coleg Gwent yn Ymgyrch Gofalwn Cymru!
3 Mawrth 2020
Mae Coleg Gwent yn falch o chwarae rôl bwysig yn ymgyrch Gofalwn Cymru a lansiwyd yn ddiweddar. Dyma fenter sy'n canolbwyntio ar ddilyniant gyrfaol o fewn y sector gofal cymdeithasol

Coleg Gwent a Choleg Seiber Cymru: ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dalent ddigidol!
27 Chwefror 2020
Yn dilyn lansiad llwyddiannus Coleg Seiber Cymru'r wythnos hon gan Kirsty Williams AM: Y Gweinidog Addysg, mae Coleg Gwent yn falch o gyhoeddi manylion ein cwrs BTEC digidol cyffrous newydd yn swyddogol, y Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Cyfrifiadura.

Coleg Gwent yn cefnogi achosion da
24 Chwefror 2020
Mae Hanner Marathon Casnewydd ar y gorwel, ac mae Coleg Gwent eisoes ar y blaen gyda'i gefnogaeth i achosion da!