En

Newyddion Coleg Gwent

Coleg Gwent yn arwain y ffordd fel coleg Aur CyberFirst!

22 Medi 2020

Llwyddiant i ni - mae Coleg Gwent wedi cael cydnabyddiaeth coleg Aur CyberFirst! Ar ôl sawl mis o waith caled gyda'n partneriaid diwydiannol allweddol - Thales, Fujitsu ac Admiral - ac yn dilyn lansiad cyffrous ein Cymhwyster Seiberddiogelwch sydd wedi'i ddylunio ar y cyd a dan arweiniad diwydiant, rydym wrth ein bodd o gael cydnabyddiaeth gan y cynllun Ysgol/Coleg CyberFirst!

Darllen mwy

Coleg Gwent yn cyflwyno WorldSkills

21 Medi 2020

Ers 2012, mae'n destun balchder gennym ein bod yn cefnogi nifer o ddysgwyr wrth iddynt gystadlu'n llwyddiannus yng nghystadlaethau WorldSkills, a hwythau ymhlith y 10 gorau yn nhabl cynghrair eu meysydd sgiliau am 3 blynedd yn olynol. Felly, rydym yn falch dros ben o gael ein dewis fel rhan o'r rhaglen arloesol Canolfan Ragoriaeth WorldSkills UK, mewn partneriaeth â'r elusen addysg a sgiliau NCFE.

Darllen mwy
Learners with gold A star balloons

Diwrnod Canlyniadau Lefel A 2020

13 Awst 2020

Mae gennym reswm da iawn i ddathlu heddiw gyda blwyddyn arall o ganlyniadau Lefel A rhagorol, er gwaethaf amgylchiadau heriol dosbarth 2020. Cynhaliwyd ein cyfradd lwyddo ragorol o 98%, gyda'r graddau A* - C gorau erioed, cynnydd o 2.2% yn y graddau A*/A a dysgwyr o'r ddau gampws yn sicrhau llefydd ym Mhrifysgol Caergrawnt!

Darllen mwy
Georgina Kenvin

Gwobr efydd o fri i ddysgwr Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yng Ngwobrau BTEC

1 Gorffennaf 2020

Llongyfarchiadau i Georgia Kenvin, 20 oed, dysgwr Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn ein Parth Dysgu Blaenau Gwent, sydd wedi derbyn gwobr efydd o fri yng Ngwobrau BTEC Pearson 2020.

Darllen mwy
Adult learner sat at computer

Wythnos Addysg Oedolion - Cwrdd â'r Dysgwyr

26 Mehefin 2020

Rydych eisoes wedi cwrdd â rhai o'n hoedolion sy'n ddysgwyr anhygoel sy'n astudio cyrsiau Hyfforddiant Personol a Busnes, ond mae dysgwyr hŷn yn ymuno â ni i astudio ystod eang o bynciau ar bob lefel, hyd yn oed lefel gradd! Felly, beth am gwrdd â Jodie, Lucinda, Julie, Teresa a Lois, i glywed am eu taith fel oedolion sy'n ddysgwyr...

Darllen mwy
Helen Lloyd

Wythnos Oedolion sy'n Dysgu 2020 - Cwrdd â'r Dysgwyr

25 Mehefin 2020

Dewch i gwrdd â Helen, Holly, Kim a Margaret-Anne, pedwar oedolyn ysbrydoledig sy'n dysgu ac yn astudio ein cyrsiau busnes. Dengys yr oedolion hyn sy'n dysgu nad oes rhaid i'r broses o ddychwelyd i'r coleg fod yn rhy heriol...

Darllen mwy