Dewch i wneud eich gorau glas yn Coleg Gwent
21 Medi 2022
Rydym yn croesawu carfan newydd sbon o ddysgwyr uchelgeisiol i Coleg Gwent fis Medi. O unigolion sydd wedi gadael yr ysgol i ddysgwyr sy'n oedolion, rydym yn edrych ymlaen at weld cymuned amrywiol yn ymuno â'n coleg i astudio cyrsiau llawn amser a rhan amser, yn ogystal â chyrsiau ar lefel brifysgol. Ymunwch â ni i gymryd y cam nesaf ar eich taith addysgol!
Coleg Gwent yn ymateb i farwolaeth Brenhines Elizabeth II
9 Medi 2022
Yn dilyn y cyhoeddiad o’r Palas am farwolaeth EM y Frenhines Elizabeth II, mae Coleg Gwent yn estyn cydymdeimlad ar farwolaeth y frenhines sydd wedi teyrnasu y hiraf yn hanes Prydain.
Dosbarth 2022 yn cael diwrnod canlyniadau TGAU llwyddiannus
25 Awst 2022
Llongyfarchiadau i'r dysgwyr hynny sydd wedi cael eu canlyniadau TGAU a BTEC Lefel 2 heddiw! Yma yn Coleg Gwent, rydyn ni'n dathlu cyfraddau llwyddo gwych dosbarth 2022. Eleni, rydyn ni wedi gweld cyfradd lwyddo arbennig o 92.5% ar gyfer Mathemateg TGAU, a chyfradd lwyddo ragorol o 85.4% ar gyfer Saesneg TGAU hefyd.
Perfformiad rhagorol a graddau gwych - diwrnod canlyniadau 2022
18 Awst 2022
Am ddiwrnod y bu hi i Coleg Gwent! O’r diwedd mae’r holl ddisgwyl ar ben wrth i ddysgwyr a staff ddathlu blwyddyn anhygoel arall o ganlyniadau Safon Uwch a BTEC yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru.
Dysgwyr 22 yn cyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2022
13 Gorffennaf 2022
Mae cystadlaethau hir ddisgwyliedig WorldSkills UK yn cael eu cynnal unwaith eto ar gyfer 2022, ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod Coleg Gwent ar frig bwrdd arweinwyr Cymru eleni, wrth i ddysgwyr 22 gyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK!
Addewid Cyflogwr yn mynd o nerth i nerth
12 Gorffennaf 2022
Mae'r Addewid Partneriaeth Cyflogwr yn parhau i dyfu a datblygu wrth nesáu at ei ben-blwydd cyntaf eleni. Ym mis Mehefin, cynaliasom ddigwyddiad rhwydweithio ar gyfer cyflogwyr ar safle cwmni sydd newydd gofrestru gyda ni, Tiny Rebel Brewery.