Y Canlyniadau gorau erioed yn WorldSkills UK
29 Tachwedd 2022
Cawsom ddathlu ein canlyniadau gorau erioed yn rowndiau terfynol WorldSkills UK. Fe lwyddom i ddringo i fod yn un o'r tri uchaf yn y Deyrnas Unedig yng nghystadlaethau’r brif ffrwd a sylfaen, ond ar ben hynny, ni bellach yw'r coleg sy'n perfformio orau yng Nghymru!
Rydyn ni wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr AoC Beacon
23 Tachwedd 2022
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi fod Coleg Gwent wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Beacon AoC, sy’n glod mawr. Mae’r gwobrau’n dathlu’r ymarfer gorau a mwyaf arloesol ymysg colegau addysg bellach yn y DU, a chafodd ein menter Coleg Seibr Cymru ei henwebu ar gyfer y Wobr Edge ar gyfer Rhagoriaeth mewn Dysgu Byd Go Iawn.
Ymunwch â ni yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd
21 Tachwedd 2022
Mae newid hinsawdd yn un o heriau byd-eang mwyaf arwyddocaol ein hoes. Rydym am wneud cynaliadwyedd yn flaenoriaeth yn Coleg Gwent. Mae ein Tasglu Cynaliadwyedd wedi cynllunio ar gyfer y blynyddoedd i ddod, er mwyn parhau i wella ein coleg a lleihau ein heffaith amgylcheddol. Byddwn yn canolbwyntio ar deithio, cyflwyno mannau ailgylchu, ac adeiladu gweithlu mwy gwybodus.
Cŵn therapi yn cefnogi ein dysgwyr
18 Tachwedd 2022
Mae cyflogai newydd wedi ymuno â ni'r tymor hwn fel rhan o brosiect cymorth arloesol i fyfyrwyr - Pippa y Cavachon. Fel rhan o'r Prosiect Baxter, mae'r cyflogai gwallt cyrliog â chynffon chwim yn gweithio ochr yn ochr â'i phartner dynol Julie, i gynorthwyo myfyrwyr i ymlacio a bod yn agored ynghylch eu trafferthion.
Ymweliad Brenhinol ar gyfer digwyddiad arbennig DofE
10 Tachwedd 2022
Rydym wedi cael ymweliad arbennig iawn gan Iarll Wessex, heddiw, wrth iddo ymuno â myfyrwyr o bob rhan o Dde-ddwyrain Cymru ar gyfer diwrnod her arbennig Gwobr Dug Caeredin ym Mharth Dysgu Torfaen.
Llwyddo i Raddio: stori Erin
9 Tachwedd 2022
Ydych chi wastad wedi breuddwydio am fynd i’r brifysgol a chael gradd? Gwireddwch hyn yn Coleg Gwent! Cewch glywed am brofiad Erin o gwrs ar lefel prifysgol yn Coleg Gwent a sut yr aeth hi ati i wireddu ei breuddwyd.