![Page Thumbnail WorldSkillsUK results Coleg Gwent WorldSkills UK results](https://b2822998.smushcdn.com/2822998/wp-content/uploads/2021/11/Page-Thumbnail-WorldSkillsUK-results.jpg?lossy=0&strip=1&webp=1)
Canlyniadau WorldSkills wedi cyrraedd - aur i ddysgwyr Coleg Gwent eto!
29 Tachwedd 2021
Mae cystadlaethau WorldSkills UK wedi bod yn wych eleni yn ogystal â’r canlyniad i Dîm Cymru, gyda dysgwyr Coleg Gwent yn cipio Aur, Arian ac Efydd a Chanmoliaeth Uchel ar draws amrywiaeth o gystadlaethau sgiliau!
![Page Thumbnail logo competition logo competition](https://b2822998.smushcdn.com/2822998/wp-content/uploads/2021/11/Page-Thumbnail-logo-competition.jpg?lossy=0&strip=1&webp=1)
Dysgwyr yn dangos eu creadigrwydd mewn cystadleuaeth dylunio logo
29 Tachwedd 2021
Mae dysgwyr dawnus Coleg Gwent wedi cael cyfle unigryw i ddangos eu creadigrwydd a dylunio logo ar gyfer Fforwm Busnes newydd Fforwm Economaidd Strategol Torfaen.
![Page Thumbnail - BBC X Ray filming in the hair and beauty department at Coleg Gwent BBC X Ray filming in the hair and beauty department at Coleg Gwent](https://b2822998.smushcdn.com/2822998/wp-content/uploads/2021/10/Page-Thumbnail-BBC-X-Ray-filming-in-the-hair-and-beauty-department-at-Coleg-Gwent.jpg?lossy=0&strip=1&webp=1)
BBC X Ray yn ymweld â'n hadran Gwallt a Harddwch
2 Tachwedd 2021
Yn ddiweddar mae ein hadran Gwallt a Harddwch Campws Crosskeys wedi croesawu rhai gwesteion arbennig o'r rhaglen deledu boblogaidd i ddefnyddwyr, BBC X Ray. Gydag adnoddau o safon y diwydiant a thiwtoriaid arbenigol yn y sector colur a harddwch, Coleg Gwent oedd y lle delfrydol i ffilmio pennod gyfan am y broblem gynyddol o golur ffug.
![Page Thumbnail - COP26 meeting with Jayne Bryant and John Griffiths COP26 meeting with Jayne Bryant and John Griffiths](https://b2822998.smushcdn.com/2822998/wp-content/uploads/2021/10/Page-Thumbnail-COP26-meeting-with-Jayne-Bryant-and-John-Griffiths.jpg?lossy=0&strip=1&webp=1)
Dysgwyr Gwleidyddiaeth a Daearyddiaeth yn trafod COP26 gydag Aelodau Senedd lleol
29 Hydref 2021
Gyda Chynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) ar y gorwel, cafodd ein dysgwyr gyfle unigryw i siarad ag Aelodau Senedd lleol, fydd yn mynychu'r gynhadledd, i rannu eu safbwyntiau ar newid hinsawdd a thrafod y pynciau yr hoffent i'r gynhadledd eu trafod.
![Page Thumbnail - KOREC surveying equipment KOREC surveying equipment](https://b2822998.smushcdn.com/2822998/wp-content/uploads/2021/10/Page-Thumbnail-KOREC-surveying-equipment.jpg?lossy=0&strip=1&webp=1)
Adeiladu dyfodol gwell gydag offer tirfesur o safon y diwydiant
28 Hydref 2021
Mae buddsoddi mewn offer o’r radd flaenaf yn allweddol o ran helpu ein dysgwyr fod yn ymwybodol o’r newidiadau a’r datblygiadau arloesol diweddaraf yn y sector. Felly, cafodd ein hadran Adeiladu a Pheirianneg Sifil ar Gampws Dinas Casnewydd ddanfoniad cyffrous o offer tirfesur newydd sbon gan KOREC
![Page Thumbnail - Coleg gwent WorldSkills Finalists 2021 Coleg Gwent WorldSkills Finalists 2021](https://b2822998.smushcdn.com/2822998/wp-content/uploads/2021/10/Page-Thumbnail-Coleg-gwent-WorldSkills-Finalists-2021.jpg?lossy=0&strip=1&webp=1)
29 o Ddysgwyr Ysbrydoledig Coleg Gwent yn cyrraedd rowndiau terfynol WorldSkills UK
26 Hydref 2021
Eleni, mae 29 o ddysgwyr ysbrydoledig Coleg Gwent wedi llwyddo i gyrraedd y rowndiau terfynol, yn cystadlu yn erbyn dysgwyr o golegau ar draws y DU mis Tachwedd yma.