6 Rhagfyr 2022
Mae ein canolfan gofal anifeiliaid, sydd wedi’i adnewyddu’n sylweddol yn ddiweddar, ar Gampws Brynbuga yn gartref i dros 200 o anifeiliaid, gan gynnwys ymlusgiaid, mamaliaid, adar ac infertebratau. Rydym yn mynd ati’n barhaus i uwchraddio a gwella ein campysau, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cynnig yr offer a’r dechnoleg ddiweddaraf i fyfyrwyr eu profi. Ond y tro hwn, rydym wedi canolbwyntio ar ein canolfan gofal anifeiliaid pwrpasol, sy’n golygu uwchraddio’r amgylchedd mae ein hanifeiliaid yn byw ynddo, cyflwyno rhai preswylwyr newydd a gwella’r amgylchedd dysgu hefyd.
Mae cynnig y lefel uchaf bosibl o ofal a hwsmonaeth i’n holl anifeiliaid preswyl yn bwysig i ni. Mae’n gosod esiampl dda i’n dysgwyr ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn barod i ymuno â’r diwydiant gyda chyfoeth o wybodaeth ac arfer gorau i’w harwain. Mae bod â’r cyfleusterau a’r offer cywir yn hanfodol er mwyn cyflawni hyn. Felly, rydym yn buddsoddi yn ein canolfan farchogaeth, canolfan gofal anifeiliaid bach, fferm 296 erw, a chanolfan hyfforddi nyrsys milfeddygol er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael profi cyfleusterau o’r un safon ag y byddant yn eu defnyddio’n ymarferol ar ôl gadael y coleg.
Felly, er mwyn gwella’r cyfleusterau eto fyth ar gyfer ein myfyrwyr a’n hanifeiliaid, rydym wedi gosod to newydd ac wedi gorchuddio ein hadeilad nyrsio milfeddygol mewn pren, ynghyd ag adnewyddu ac addurno ystafelloedd er mwyn adfywio’r amgylchedd dysgu. Rydym hefyd wedi gosod safle golchi bŵts marchogaeth newydd ac arwyneb solet ar gyfer ein ceffylau hefyd.
Ynghyd â gwella ein cyfleusterau, mae cael sioe dda o anifeiliaid domestig ac estron yn hanfodol wrth baratoi ein myfyrwyr i weithio yn y sector gofal anifeiliaid eang. Mae Campws Brynbuga eisoes yn gartref i gasgliad amrywiaeth o anifeiliaid, fel bo myfyrwyr yn gallu ennill profiad o nifer o rywogaethau a dysgu sut i ofalu amdanynt yn iawn. Un o breswylwyr hynaf y ganolfan gofal anifeiliaid yw Razi, ein neidr wasgu 29 mlwydd oed, sy’n 11 troedfedd o hyd. Oherwydd ei maint, mae hi’n cael ei hystyried i fod yn neidr enfawr, ac mae hi wedi byw’n braf yn y ganolfan ers 20 mlynedd!
Felly, yn ogystal â diweddaru ein cyfleusterau, rydym hefyd wedi croesawu rhywogaethau newydd a chyffrous i’r ganolfan, er mwyn gwella eich profiad dysgu. Mae rhai o’n preswylwyr diweddaraf yn cynnwys pedwar swricat boliog, sydd bellach ar ddeiet newydd sy’n addas i swricatiaid. Maent yn ymgartrefu’n dda ar ôl cael eu hailgartrefu o sw a oedd yn cau, ac rydym yn bwriadu eu cyflwyno i’n dysgwyr yn fuan iawn. Rydym hefyd wedi croesau Roz, y sginc tafod las; Memphis y drewgi, y mae ei arogl eisoes i’w glywed yn y ganolfan gofal anifeiliaid; Joey y monitor bosc, sy’n mwynhau mynd am dro hir ar ei dennyn yn ystod yr haf; Kevin a Peri y cwningod mawr, sydd eisoes yr un maint â chorgi, ac yn dal i dyfu; Jeff y fadfall gwddf ffril, wedi’i enwi ar ôl Jeff Goldblum o Juriassic Park; ac Wilma, y draenog annwyl.
Mae ein holl anifeiliaid newydd yn y ganolfan gofal anifeiliaid yn treulio pedair wythnos gychwynnol mewn cwarantin er mwyn inni eu harsylwi am unrhyw arwyddion o iechyd gwael, eu sgrinio am unrhyw afiechydon, a threfnu ymweliadau gan ein tîm milfeddygol, cyn eu symud i’r prif amgaeadau. Ond maent yn dechrau ymgartrefu fel rhan o deulu Coleg Gwent ar Gampws Brynbuga erbyn hyn, ac yn ffynnu yn eu cartrefi newydd.
P’un a ydych eisiau gweithio gyda chŵn a chathod blewog, dod yn ffermwr yn y dyfodol, neu arbenigo mewn ymlusgiaid estron llawn cennau, byddwch yn ennill y profiad a’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i lwyddo yn Coleg Gwent.